Neidio i'r prif gynnwy

Practisau Deintyddol

Practisau deintyddol

Dylai plant ddechrau mynd i weld deintydd yn rheolaidd cyn gynted ag y bydd eu dant cyntaf yn ymddangos, ac yn sicr erbyn eu pen-blwydd cyntaf. Mae’r Cynllun Gwên yn gweithio’n agos â thimau Ymarfer Deintyddol  Cyffredinol y GIG yng Nghymru i gefnogi pobl i fynd â’u plant i weld y deintyodd yn ystod plentyndod cynnar.

Yn y practis, gall timau deintyddol gefnogi atal pydredd dannedd ac annog iechyd y geg da er mwyn lleihau’r risg o bydredd dannedd.  Caiff aelodau timau deintyddol eu hannog i ddeall a defnyddio’r ddogfen Delivering Better Oral Health: An evidence-based toolkit for prevention. (Saesneg yn unig)

Timau Deintyddol Cymru! Ydych chi wedi cofrestru ar gyfer Designed to Smile in Practice, ein rhaglen e-ddysgu? I gael mwy o wybodaeth, ewch i https://aagic.gig.cymru/addysg-a-hyfforddiant/deintyddol/gwella-ansawdd/cynllun-gwen-yn-y-yn-y-ddeintyddfa/.

Gall timau’r Cynllun Gwên gefnogi a chynghori timau practisau deintyddol am integreiddio dulliau atal i’w harferion. Datblygwyd rhaglen e-ddysgu sy’n arwain gweithwyr proffesiynol deintyddol drwy’r broses o roi prosiect gwella ansawdd ar waith yn eu practisau. Mae’r rhaglen yn anelu at wella dulliau atal ar gyfer plant ifanc a’i enw yw Designed to Smile in Practice. Cysylltwch â’ch tîm Cynllun Gwên lleol  i gael mwy o wybodaeth.

I gael gwybodaeth am y Rhaglen Diwygio Gwasanaethau Deintyddol Cyffredinol yng Nghymru, ewch i: Iechyd Cyhoeddus Cymru - (gig.cymru)

Am wybodaeth am fwyta'n iach, hyfforddiant ac addysg maeth i weithwyr iechyd proffesiynol, ewch i Sgiliau Maeth am Oes