Neidio i'r prif gynnwy

Mae dwy ran o dair o ddisgyblion blwyddyn 10 sy'n fêpio bob dydd yn dangos arwyddion o ddibyniaeth ar nicotin.

Cyhoeddig: 6 Medi 2023


Mae arolwg ciplun o ddisgyblion ym mlynyddoedd 7 a 10 o sampl fach o ysgolion uwchradd yng Nghymru wedi canfod bod cyfran y disgyblion blwyddyn 10 sy'n fêpio bob dydd tua naw i 10 y cant.  Ymhlith y rhai sy'n fêpio bob dydd, dangosodd tua dwy ran o dair ohonynt arwyddion o ddibyniaeth gymedrol neu uchel ar nicotin gan ddefnyddio mesur wedi'i ddilysu.

Mae effaith y ddibyniaeth hon yn cael ei gweld mewn ysgolion sydd hefyd yn nodi problemau cynyddol o ran y defnydd o fêpio ac ymddygiad problemus o ganlyniad i hynny. Mae Penaethiaid wedi nodi bod y defnydd o fêpio wedi dod yn broblem gynyddol dros y ddwy flynedd ddiwethaf gan eu harwain at orfod monitro rhannau penodol o'u safle ar gyfer fêpio (er enghraifft toiledau). Nododd arweinwyr ysgolion hefyd gynnydd mewn gwaharddiadau o ysgolion yn ymwneud â fêpio yn ystod y flwyddyn academaidd ddiwethaf.

Ym mis Awst, cyhoeddodd Iechyd Cyhoeddus Cymru ei fod wedi cynnull Grŵp Ymateb i Ddigwyddiad yn dilyn adroddiadau cynyddol o fêpio ymhlith disgyblion gan y rhai sy'n gweithio gyda phlant a phobl ifanc yng Nghymru. Mae'r Grŵp Ymateb i Ddigwyddiad yn bwriadu datblygu dealltwriaeth o'r broblem fêpio ymhlith pobl ifanc, nodi'r achosion, a sefydlu argymhellion i liniaru'r niwed posibl. Ym mis Medi, bydd Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cyhoeddi gwybodaeth a chanllawiau ar fêpio i ysgolion yn dilyn cais gan Lywodraeth Cymru. Bydd hyn yn manylu ar beth yw dyfeisiau fêpio, eu risgiau iechyd hysbys, y gyfraith bresennol sy'n ymwneud â'u defnydd, a sut y gall ysgolion ymateb i fêpio ymhlith dysgwyr. Bydd y ddogfen hon hefyd yn rhoi gwybodaeth am sut y gallai ysgolion ddymuno llunio polisïau mewnol ynghylch fêpio, a lle i geisio cymorth pellach.

Bydd y Grŵp Ymateb i Ddigwyddiad yn defnyddio fformat Tîm Rheoli Digwyddiad, y mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn ei alw'n amlach i drefnu'r gwaith o gyfyngu ar achosion o glefydau trosglwyddadwy. Roedd rhanddeiliaid yn teimlo bod y mater cynyddol hwn yn ei gwneud yn ofynnol cael yr un lefel o ymateb brys gan fod hon yn ffenomen sy'n newid yn gyflym gyda niwed posibl i iechyd cyhoeddus. Mae'r Grŵp Ymateb i Ddigwyddiad yn grŵp amlasiantaethol sy'n cynnwys arbenigwyr o amrywiaeth o feysydd perthnasol gan gynnwys Llywodraeth Cymru, Iechyd Cyhoeddus Cymru, byrddau iechyd, darparwyr gwasanaethau rhoi’r gorau i smygu, ASH Cymru, Cyfarwyddwyr Diogelu’r Cyhoedd Cymru, arbenigwyr pediatrig ac anadlol y GIG a chynrychiolwyr o ysgolion. Ym mis Hydref, bydd y Grŵp Ymateb i Ddigwyddiad yn cyhoeddi ei adroddiad ei hun yn nodi'r hyn y mae'r dystiolaeth yn ei ddweud wrthym am fêpio ymhlith plant a phobl ifanc yng Nghymru a pha fesurau sydd fwyaf tebygol o fod yn effeithiol wrth fynd i'r afael â'r cynnydd mewn fêpio a niwed cysylltiedig.

Er bod newid i fêpio yn lle smygu yn arwain at amrywiaeth o fanteision iechyd i smygwyr, nid oes manteision i'r rhai nad ydynt yn smygwyr, yn enwedig plant a phobl ifanc. Am y rheswm hwn, mae eisoes yn anghyfreithlon gwerthu fêps i bobl o dan 18 oed. Mae fêpio yn golygu bod pobl ifanc yn wynebu risg o ddibyniaeth ar nicotin, dibyniaeth sy'n effeithio ar eu haddysg, ymddygiad a'u bywyd bob dydd. Er nad yw'n bosibl pennu'r effeithiau iechyd yn llawn dros oes, mae aelodau o'r Grŵp Ymateb i Ddigwyddiad yn pryderu y gall effeithiau iechyd tymor hwy gael eu nodi'n ddiweddarach ac erbyn hynny efallai y bydd llawer o bobl ifanc eisoes wedi datblygu arfer gydol oes, er eu bod yn aelod o ddemograffig na fyddai erioed wedi defnyddio cynhyrchion tybaco fel arall.

Mas Safonau Masnach eisoes yn ymwybodol bod llawer o gynhyrchion anghyfreithlon ar gael mewn siopau nad ydynt yn cydymffurfio â'r rheoliadau diogelwch presennol. Gall y cynhyrchion hyn olygu bod pobl ifanc yn wynebu risg ychwanegol o halogion anhysbys, sydd o bosibl yn fwy niweidiol, ac mae cael dealltwriaeth ynghylch pa gynhyrchion fêpio y mae plant yn eu defnyddio a sut y maent yn cael gafael arnynt yn un o nodau canolog y Grŵp Ymateb i Ddigwyddiad.

Meddai Dr Julie Bishop, Cyfarwyddwr Gwella Iechyd yn Iechyd Cyhoeddus Cymru: “Mae'r diwydiant fêpio wedi ehangu'n gyflym dros y degawd diwethaf. Mae cynhyrchion yn cael eu marchnata'n gyson mewn ffyrdd sy'n apelio at bobl iau gyda phecynnau lliwgar, dyluniadau modern, a blasau sy'n dynwared cynhyrchion melysion. Fel cynnyrch newydd sy'n datblygu'n gyflym, nid yw risgiau fêpio wedi'u deall yn llawn eto, ond mae eisoes yn amlwg nad ydynt o fudd i'r rhai nad ydynt yn smygu a phobl ifanc.

“Mae'r dystiolaeth yn dangos y bu cynnydd amlwg mewn adroddiadau o fêpio rheolaidd a dibynnol ymhlith plant oed ysgol uwchradd, ac mae hyn yn effeithio ar eu gallu i ddysgu. Bydd y Grŵp Ymateb i Ddigwyddiad yn parhau i gasglu gwybodaeth am y mater yng Nghymru a chynnig arweinyddiaeth o ran lliniaru niwed pellach i iechyd cyhoeddus.”