Neidio i'r prif gynnwy

Gwasanaeth newydd yn galluogi cleifion i ffonio gwasanaeth 'Call 4 Concern'

Mae agwedd newydd tuag at ddiogelwch cleifion yn Ysbyty Gwynedd yn sicrhau bod lleisiau cleifion a’u teuluoedd yn cael eu clywed os ydyn nhw’n codi pryderon am eu hiechyd sy’n dirywio.

Mae Gwasanaeth Call 4 Concern yn galluogi cleifion yn yr ysbyty a'u teuluoedd i alw am gymorth a chyngor ar unwaith os ydynt yn poeni nad yw'r tîm gofal iechyd wedi adnabod eu cyflwr newidiol. 

Mae’r gwasanaeth yn cael ei redeg gan Dîm Ymyrraeth Acíwt Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, grŵp o Uwch Ymarferwyr Nyrsio medrus a phrofiadol iawn sydd ar gael 24/7 i gefnogi timau wardiau i ofalu am gleifion sy’n ddifrifol wael.

Ar ôl derbyn galwad Call 4 Concern, mae aelod o'r Tîm Ymyrraeth Acíwt yn ymweld ac yn adolygu'r claf ar y ward. Ar ôl asesu'r sefyllfa a chysylltu â'r tîm meddygol a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol eraill yn ôl yr angen, bydd y tîm yn sicrhau bod yr ymyriad angenrheidiol yn cael ei roi ar waith.

I ddechrau, lansiodd y tîm y gwasanaeth fel peilot 18 mis, yn gyntaf ar gyfer cleifion a ryddhawyd i wardiau o uned gofal dwys (ICU) cyn ehangu i un o wardiau llawfeddygol yr ysbyty.

Ar ôl ymuno â’r Grŵp Cydweithredol ar gyfer Gofal Diogel, sy’n rhoi hyfforddiant a chymorth wedi’u teilwra i dimau gan Gwelliant Cymru a’r Sefydliad Gwella Gofal Iechyd (IHI) i gyflymu prosiectau gwella sy’n anelu at gyflawni blaenoriaethau diogelwch cleifion cenedlaethol, lansiwyd gwasanaeth Call 4 Concern yn ffurfiol ar draws gwasanaethau cleifion mewnol i oedolion Ysbyty Gwynedd ym mis Ebrill 2023.

Mae ymyriadau drwy'r gwasanaeth wedi cael effaith sylweddol ar ddiogelwch cleifion, sydd wedi cynnwys atal cleifion rhag gorfod derbyn gofal dwys.

Bellach, mae bryd y tîm ar weithio gyda chydweithwyr i ledaenu'r gwasanaeth ymhellach i Ysbyty Maelor Wrecsam ac Ysbyty Glan Clwyd

Dywedodd Eirian Edwards, Arweinydd Uwch-ymarferydd Nyrsio (ANP) ar gyfer Gwasanaeth Call 4 Concern: “Mae wedi bod yn gyfnod cyffrous i ddod y tîm cyntaf yng Nghymru i weithredu system ymateb cyflym a weithredir gan gleifion a pherthnasau yn Ysbyty Gwynedd, gan gyflwyno rhwyd ​​​​ddiogelwch werthfawr i’n cleifion.

“Mae cynnwys cleifion mewn penderfyniadau am eu triniaeth trwy ddulliau fel y Gwasanaeth Call 4 Concern yn gwella diogelwch cleifion, yn lleihau niwed ac yn ail-gydbwyso’r berthynas rhwng unigolion a gweithwyr iechyd proffesiynol.

“Mae bod yn rhan o’r Grŵp Cydweithredol ar gyfer Gofal Diogel wedi rhoi arweiniad a hyfforddiant arbenigol i ni allu gweithredu’r gwasanaeth yn llwyddiannus o’r cam peilot i’w lansio, gan ddefnyddio offer gwella fel diagramau sbardun a derbyn arweiniad ar gasglu a dadansoddi data.

“Mae hefyd wedi bod yn sêl bendith yn ein bwrdd iechyd ar gyfer darparu’r gwasanaeth ac wedi rhoi cyfle i rannu ein llwyddiannau a’n dysgu gyda byrddau iechyd eraill ledled Cymru sy’n edrych ar roi gwasanaethau tebyg ar waith.

“Ein nod yw sefydlu gwasanaeth Call 4 Concern ym mhob safle acíwt ar draws Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ac edrychwn ymlaen at barhau i weithio gyda’r Grŵp Cydweithredol ar gyfer Gofal Diogel i ymdrechu i wneud hynny.”

Ychwanegodd Angela Wood, Cyfarwyddwr Gweithredol Nyrsio a Bydwreigiaeth Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr: “Mae’r gwaith caled a wnaed gan y Tîm Ymyrraeth Acíwt wrth sefydlu’r Gwasanaeth Call 4 Concern cyntaf yn Ysbyty Gwynedd wedi gwneud argraff fawr arnaf.

“Roeddwn yn falch o weld y tîm yn rhannu ei stori â chydweithwyr ledled Cymru fel rhan o’r Grŵp Cydweithredol ar gyfer Gofal Diogel, ac rwy’n gobeithio ei fod yn helpu i ysbrydoli ac annog gwaith gwych tebyg mewn mannau eraill.”

Mae’r Grŵp Cydweithredol ar gyfer Gofal Diogel yn dod â byrddau iechyd ac ymddiriedolaethau ledled Cymru ynghyd i gyflymu prosiectau gwella a fydd yn gwella diogelwch cleifion ledled y GIG yng Nghymru.

Dros gyfnod penodol o 15 mis, mae Gwelliant Cymru ac IHI yn darparu gwasanaethau a thimau ledled GIG Cymru gyda hyfforddiant a chymorth wedi'u teilwra. Bydd hyn yn helpu i gyflymu prosiectau gwella presennol i wella gofal diogel ac effeithiol ledled y wlad.

Mae'r Gwasanaeth Call 4 Concern yn rhan o ffrwd waith Gofal Acíwt Diogel ac Effeithiol y fenter gydweithredol, sy'n canolbwyntio ar gefnogi prosiectau gwella sy'n mynd i'r afael â strwythurau a phrosesau mewn ymateb i'r dirywiad yn y claf mewn lleoliadau acíwt.  ​

Ochr yn ochr â ffrydiau gwaith sy’n canolbwyntio ar ofal cymunedol a gofal dydd, mae ffrwd waith Arweinyddiaeth ar gyfer Gwella Diogelwch Cleifion sy’n cefnogi mabwysiadu’r systemau dysgu sefydliadol, y diwylliant a’r amgylcheddau gwaith sydd eu hangen er mwyn i welliant ffynnu, yn sail iddo.

Dywedodd Dominique Bird, Dirprwy Gyfarwyddwr a Phennaeth Gwella Ansawdd Gwelliant Cymru, “Rwyf wrth fy modd bod y Grŵp Cydweithredol ar gyfer Gofal Diogel wedi bod yn gatalydd ar gyfer y Tîm Ymyrraeth Acíwt yn Ysbyty Gwynedd. Mae’r tîm wedi gwneud gwaith rhagorol i lansio Gwasanaeth Call 4 Concern, sy’n cael effaith gadarnhaol wirioneddol ar ddiogelwch cleifion. 

“Rydym yn edrych ymlaen at barhau i gefnogi cyflymu'r broses o gyflawni prosiectau fel y Gwasanaeth Call 4 Concern ledled Cymru drwy ffrydiau gwaith cymunedol, gofal dydd a gofal acíwt y grŵp cydweithredol, ochr yn ochr â’n gwaith gydag arweinwyr ar draws GIG Cymru drwy’r ffrwd waith arweinyddiaeth i greu’r amodau gorau posibl o fewn systemau iechyd fel y gall gwelliant ffynnu yn y dyfodol.” 

Gallwch gael rhagor o wybodaeth am y Gwasanaeth Call 4 Concern ar wefan Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.

Ewch i wefan Gwelliant Cymru i gael manylion am y Grŵp Cydweithredol ar gyfer Gofal Diogel.