Neidio i'r prif gynnwy

Rhaglen "Llunio Lleoedd ar gyfer Llesiant yng Nghymru" yn ceisio mynd i'r afael ag anghydraddoldebau iechyd

Mewn ymdrech ar y cyd i fynd i'r afael ag anghydraddoldebau iechyd a gwella llesiant ledled Cymru, mae'r rhaglen "Llunio Lleoedd ar gyfer Llesiant yng Nghymru" wedi'i chyhoeddi.  

Dan arweiniad Iechyd Cyhoeddus Cymru, mae'r fenter hon a ariennir gan y Sefydliad Iechyd yn ceisio cynorthwyo Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus i ddylanwadu ar ffactorau cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol– blociau adeiladu iechyd a llesiant, drwy gymryd dull systemau sy'n cael ei lywio gan theori a thystiolaeth. 

Mae'r rhaglen yn ceisio cynorthwyo ymdrechion i leihau anghydraddoldebau iechyd, cyfrannu at y sylfaen dystiolaeth ar weithredu dulliau sy'n seiliedig ar systemau, a hwyluso rhannu dysgu ar draws Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus gwahanol yng Nghymru. 

Bydd y rhaglen yn canolbwyntio ar dair thema sy'n gyffredin ar draws Cynlluniau Llesiant: argyfwng hinsawdd a natur, tlodi ac anghydraddoldebau a llesiant y gymdogaeth. Ar gyfer pob thema, bydd grŵp dysgu yn cael ei sefydlu a bydd cyfranogwyr yn cael eu harwain drwy offer, dulliau a ffyrdd o weithio meddwl systemau, gyda'r nod o integreiddio'r dysgu i waith Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus a llywio'r gwaith o gyflawni Cynlluniau Llesiant. 

Gan esbonio'r rhesymeg y tu ôl i'r fenter, dywedodd Jim McManus, Cyfarwyddwr Cenedlaethol Iechyd a Llesiant yn Iechyd Cyhoeddus Cymru: “Mae gan iechyd cyhoeddus mewn cydweithrediad â phartneriaid rôl hanfodol wrth ddylanwadu ar flociau adeiladu iechyd da. Drwy ddefnyddio dull systemau gallwn helpu Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus i wneud gwahaniaeth i'r newidiadau cymhleth sy'n effeithio ar iechyd a llesiant poblogaeth Cymru” 

Roedd datblygu’r rhaglen yn ymdrech gydweithredol yn cynnwys Cyfarwyddwyr Gweithredol Iechyd Cyhoeddus mewn Byrddau Iechyd a'u timau gyda chynrychiolwyr o Fyrddau Gwasanaethau Cyhoeddus, Llywodraeth Cymru a Swyddfa Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol. Rhoddodd Cyfnod Cynllunio wedi'i gyllido gan y Sefydliad Iechyd fewnwelediadau gwerthfawr, gan gynnwys yr angen am arweinyddiaeth sy'n ymgysylltu, amser i feithrin cysylltiadau dibynadwy, a naratif clir ar ddulliau sy'n seiliedig ar systemau. 

Ceisir datganiadau o ddiddordeb i ymuno â'r rhaglen gan aelodau o'r BGC a staff technegol a'r grwpiau dysgu a sefydlwyd ym mis Mehefin 2024. 

Mae cyflwyno'r rhaglen "Llunio Lleoedd ar gyfer Llesiant yng Nghymru" yn gam sylweddol tuag at feithrin arloesedd wrth fynd i'r afael â gwahaniaethau iechyd a hyrwyddo llesiant ar draws cymunedau yng Nghymru.