Neidio i'r prif gynnwy

Y gymuned welliant yn ffarwelio â Joy a Paula

Mae cymuned welliant GIG Cymru yn ffarwelio â dau gydweithiwr sydd wedi rhoi gwasanaeth hir i’r GIG.

Mae Joy Whitlock a Paula Phillips wedi ymddeol o'u priod rolau ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro, a hynny wedi i’r ddwy ohonyn nhw ar y cyd roi 81 mlynedd o wasanaeth i’r GIG.

Mae Joy Whitlock, Pennaeth Gwella Ansawdd a Diogelwch, yn gadael y GIG gyda bron i 45 mlynedd o wasanaeth o dan ei belt. Treuliodd tua 19 o'r rhain ym maes gwella ansawdd. 

Dechreuodd Joy ar ei gyrfa fel myfyrwraig nyrsio yn Ysbyty St Bartholomew, Llundain a chafodd yrfa glinigol lwyddiannus mewn gofal critigol, cardiaidd, niwro lawdriniaeth ac yna fel nyrs practis.

Ar ôl symud i’r byd gwelliant yn Ymddiriedolaeth GIG Gogledd Bryste, symudodd Joy i Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro ym mis Awst 2004 a threuliodd bron i ddau ddegawd yno lle gwnaeth gyfraniad allweddol at swyddogaeth Gwella Ansawdd y sefydliad. Aeth ymlaen i rolau eraill ym maes gwelliant fel rhan o’r Ymgyrch 1000 o Fywydau, Rhwydwaith Cleifion Mwy Diogel y Sefydliad Iechyd, a Deoniaeth Cymru.

Yn ôl Dirprwy Gyfarwyddwr a Phennaeth Gwella Ansawdd Gwelliant Cymru, Dominique Bird: "Mae angerdd Joy dros ddiogelwch cleifion wedi bod yn sbardun i Gymru. Hi oedd ar flaen y gad gyda’r Fenter Cleifion Mwy Diogel wreiddiol; ac fe wnaeth gyfraniad allweddol at ddechrau’r Ymgyrch 1000 o Fywydau a’r rhaglenni diogelwch i gleifion 1000 o Fywydau dilynnol.

"Roedd yn bleser wedyn cael Joy yn rhan o'r rhwydwaith Arwain Diogelwch Cleifion ar gyfer y Gydweithredfa Gofal Diogel, ac rwy'n gwybod y bydd hi'n parhau i fod yn eiriolwr cryf dros ein gwaith yn ystod ei hymddeoliad."


Yn ddiweddar, fe wnaeth Paula Phillips ymddeol o'i rôl fel Uwch Reolwr Gwella yn Gwelliant Cymru, lle bu'n arwain ar lif gwaith Iechyd Corfforol y tîm Anableddau Dysgu.

Dechreuodd Paula ar ei gyrfa nyrsio ym maes anableddau dysgu ym Mhowys. Yna bu’n gweithio ym Mae Abertawe mewn rolau amrywiol o fewn gwasanaethau arbenigol anableddau dysgu a'r system iechyd ehangach gan gynnwys y gwasanaethau pontio a rolau nyrsio arweiniol.

Ymunodd Paula â Gwelliant Cymru yn 2018, mewn rôl ran-amser i ddechrau yn treialu ac yn ymgorffori'r fframwaith cydraddoldeb iechyd fel mecanwaith ar gyfer monitro a lleihau anghydraddoldebau iechyd. Yna, cafodd swydd o fewn y rhaglen Gwella Bywydau ehangach a chwaraeodd rôl ganolog yn gweithio i wella profiadau pobl sydd ag anableddau dysgu wrth gael mynediad at wasanaethau gofal iechyd sylfaenol ac eilaidd.

Mae cyflawniadau niferus Paula yn cynnwys:

  • Hyrwyddo rôl nyrsys anableddau dysgu, yn enwedig nyrsys cyswllt gofal acíwt.
  • Cychwyn a chynnal digwyddiadau mawr a bach i dynnu sylw at anghenion y boblogaeth ag anableddau dysgu, gan ledaenu arferion da a gwelliannau.
  • Datblygu ac ymgorffori’r 'Proffil Iechyd Unwaith i Gymru', sef adnodd diogelwch cleifion dwyieithog sy’n seiliedig ar dystiolaeth ac sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn.
  • Cynhyrchu a gweithredu hyfforddiant Ymwybyddiaeth Anableddau Dysgu Paul Ridd.
  • Bwrw ymlaen â rhaglenni gwella i gyflwyno gwiriadau iechyd i bobl ag anableddau dysgu.

Meddai Andrea Gray, Arweinydd Datblygu Iechyd Meddwl Cymru, Gwelliant Cymru: "Mae gan Paula hanes rhagorol o hyrwyddo gwasanaethau i bobl sydd ag anableddau dysgu, ac yn arbennig wrth ymdrechu i leihau'r anghydraddoldebau iechyd maen nhw’n eu profi.

"Nid yw ei hangerdd a'i hymrwymiad i sicrhau gofal nyrsio effeithiol seiliedig ar dystiolaeth wedi pallu o gwbl mewn dros 36 mlynedd o ymarfer, ac mae llais defnyddwyr y gwasanaeth a'u teuluoedd wastad wedi bod wrth wraidd popeth mae hi wedi'i wneud.

"Mae Paula wedi eirioli, galluogi hunan-eiriolaeth, cyd-gynhyrchu, gofyn cwestiynau anodd ac wedi ymdrechu’n ddi-flino yn ystod ei gyrfa."

Ychwanegodd Dominique Bird: "Hoffwn ddiolch yn fawr i Joy a Paula am eu blynyddoedd lawer o wasanaeth ymroddedig i'r GIG, yn enwedig y cyfraniad anfesuradwy maen nhw wedi'i wneud i welliant o fewn y system iechyd yng Nghymru. Ar ran Gwelliant Cymru a'r gymuned wella yn ehangach, hoffwn gyfleu ein dymuniadau gorau i chi’ch dwy yn eich ymddeoliad."