Neidio i'r prif gynnwy

Bydd canfyddiadau ymchwil yn gwneud y gorau o gymorth iechyd meddwl rhithwir i fenywod amenedigol

Disgwylir i’r cymorth rhithwir a gynigir i bobl sy’n profi cyflyrau iechyd meddwl yn ystod beichiogrwydd ac ar ôl genedigaeth wella yn dilyn ymchwil gan y Gwasanaeth Iechyd Meddwl Cymunedol Amenedigol (PCMHS) ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro (BIP).

Mae’r prosiect ymchwil, a gefnogir gan Gwelliant Cymru, yn amlygu’r amodau gorau posibl ar gyfer darparu ymyriadau rhithwir i gefnogi menywod â chyflyrau iechyd meddwl cymedrol i ddifrifol yn ystod y cyfnod amenedigol.

Gyda chyflyrau iechyd meddwl yn gyffredin ymhlith menywod amenedigol, roedd materion fel ynysu cynyddol a llai o gymorth personol yn ystod pandemig COVID-19 yn effeithio ar ganlyniadau iechyd meddwl, a all gael canlyniadau hirdymor i fenywod a’u teuluoedd.

Mewn ymateb, cyflwynodd PCMHS Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro ymyriadau rhithwir wedi'u haddasu o'r ymyriadau seicolegol unigol a grŵp yr oedd y gwasanaeth wedi'u darparu'n bersonol yn flaenorol. 

Roedd y prosiect ymchwil a gynhaliwyd gan y PCMHS ac ymchwilwyr ym Mhrifysgol Caerdydd yn cynnwys cyfweliadau lled-strwythuredig gyda menywod a oedd wedi cyrchu a chwblhau ymyriad seicolegol grŵp neu unigol a ddarperir ar-lein yn ystod y cyfnod amenedigol. Bu tîm y prosiect hefyd yn cyfweld â menywod a oedd wedi gwrthod cymryd rhan neu wedi rhoi’r gorau iddi ran o’r ffordd drwy ymyriad seicolegol a ddarparwyd ar-lein.

Canfu tîm y prosiect y gall ymyriad rhithwir fod yn opsiwn effeithiol, derbyniol a chyfleus iawn i lawer o fenywod, ond nododd ffactorau sy'n effeithio neu'n atal ymgysylltiad y dylid cymryd camau priodol ar eu cyfer.

Mae argymhellion sy’n seiliedig ar ganfyddiadau’r ymchwil yn cynnwys defnyddio proses sgrinio syml i asesu addasrwydd ar gyfer ymyriadau rhithwir yn seiliedig ar a oes gan y person le diogel, cymorth gyda gofal plant, mynediad, hyder a sgiliau gyda thechnoleg, a chymorth ychwanegol ar gyfer unrhyw anableddau neu namau cudd sy’n gallu rhwystro eu mynediad.

Mae tîm y prosiect hefyd wedi cyhoeddi adnoddau newydd i gefnogi staff i optimeiddio’r ddarpariaeth o ymyriadau rhithwir ac annog defnyddwyr gwasanaeth i gymryd rhan ynddynt.

Dywedodd Dr Cerith Waters, Seicolegydd Arweiniol Clinigol ar gyfer Gwasanaethau Iechyd Meddwl Amenedigol ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro ac Uwch Ddarlithydd ym Mhrifysgol Caerdydd: “Rydym yn gwybod y bydd un o bob pump o fenywod yn profi problem iechyd meddwl ar ryw adeg yn ystod beichiogrwydd a’r flwyddyn gyntaf ar ôl geni.

“Mae ymyriadau seicolegol a ddarperir ar-lein yn rhoi’r cyfle i gyrraedd nifer ehangach o fenywod amenedigol sydd yn draddodiadol wedi ei chael hi’n anodd cael mynediad at wasanaethau mewn clinig oherwydd trafnidiaeth, gofal plant, beichiogrwydd a phryderon yn ymwneud ag iechyd meddwl. Mae hyn yn arbennig o berthnasol yng Nghymru lle mae ein byrddau iechyd yn cwmpasu ardal ddaearyddol eang gyda chysylltiadau trafnidiaeth cyfyngedig.

“Wrth symud ymlaen, ein nod yw rhannu ein dysgu a’n harloesedd ar draws GIG Cymru i helpu i sicrhau mynediad tecach i ymyriadau seicolegol yn ystod y cyfnod amenedigol.'

Dywedodd Dr Mark Griffiths, Arweinydd Arloesi Gwelliant Cymru: “Mae’n galonogol gweld sut y gallwn ddefnyddio technoleg mewn ffyrdd mor arloesol i helpu pobl i dderbyn y gofal gorau sydd ar gael, mewn ffordd sy’n diwallu eu hanghenion ac ar yr un pryd yn lleihau rhywfaint o’r baich ar ein gwasanaethau rheng flaen.

“Rydym yn gobeithio gweld yr argymhellion hyn yn cael eu hystyried ledled Cymru fel bod y gwasanaeth gorau posibl yn cael ei gynnig i fenywod amenedigol sy’n profi cyflyrau iechyd meddwl.”

Mae’r ymchwil i ymyriadau digidol yn ystod y cyfnod amenedigol yn un o ddau brosiect ymchwil a ariannwyd gan Gwelliant Cymru ym mis Mehefin 2022, gyda’r nod o sicrhau gwelliannau ac arloesedd ym maes iechyd a gofal.

Dyfarnwyd y cyllid yn unol â’r blaenoriaethau yn strategaeth ‘Gwella Ansawdd a Diogelwch’ Gwelliant Cymru, sy’n ceisio cefnogi’r gwaith o greu system iechyd a gofal o’r ansawdd gorau i Gymru fel bod gan bawb fynediad at ofal diogel, effeithiol a dibynadwy yn y lle iawn ac ar yr adeg iawn ar draws y system ofal gyfan.