Yn ystod y gwanwyn, lansiwyd Gwobrau GIG Cymru 2023 ac roeddem wrth ein bodd i dderbyn nifer aruthrol o gyflwyniadau am y gwaith gwella anhygoel sy’n digwydd ar draws ein system gofal iechyd. Ar ôl llawer o drafod, mae'n bryd cyhoeddi'r enwebiadau ar y rhestr fer.
Mae'r Gwobrau'n arddangos sut y gall syniadau arloesol ar gyfer newid wneud gwahaniaeth sylweddol i'r cleifion sydd angen gofal, y sefydliadau sy'n darparu gofal, a'r system iechyd a gofal yn gyffredinol. Mae'n gyfle i arddangos timau gweithgar ac ysbrydoledig sy'n gweithio gyda'i gilydd, gan ymdrechu i wella arferion gofal iechyd a gofal cleifion ledled Cymru.
Roedd y beirniaid unwaith eto wedi eu syfrdanu gyda safon yr enwebiadau ac roedd llunio rhestr fer yn hynod o anodd. Dywedodd un beirniad, “Mae wedi bod yn wirioneddol ysbrydoledig darllen cymaint o enwebiadau gwych gan dimau a sefydliadau ar draws ein GIG yng Nghymru. Roedd yn fraint cael yr amser i ddewis y prosiectau ar gyfer y rhestr fer ac i weld manylion y gwelliannau i’r gofal rydym yn ei ddarparu i’n holl ddefnyddwyr gwasanaeth.”
Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro - Gwreiddio gwell gwasanaeth eiddilwch mewn gofal brys a gofal mewn argyfwng
Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe – Ailgynllunio Gwasanaeth Methiant y Galon. Gwasanaeth Swyddogaeth y Galon Bae Abertawe – Ddim yn Derbyn Methiant
Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro - Sefydlu clinig gofal Amdriniaethol i Bobl Hŷn sy'n cael Llawdriniaeth (POPS) mewn llawfeddygaeth gyffredinol ddewisol
Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru - Wish Ambulance
Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe - Gwella Gofal Wedi’i Gynllunio ar gyfer Pobl Eiddil yn Nhreforys (IPCF Treforys)
Clwstwr Cwmtawe - Gwasanaeth Llwybr Cwmtawe: Darparu Gofal sy'n Canolbwyntio ar yr Unigolyn i Gleifion ag Anghenion Cymhleth
Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe - Lleisiau dros newid - rhedeg fforwm cleifion mewn ysbyty cleifion mewnol sydd ag anableddau dysgu i alluogi cydgynhyrchu o ran gofal
Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan - Cydgynhyrchu i gefnogi gwasanaethau niwroddatblygiadol yng Ngwent
Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan - Tîm Anaf i'r Ymennydd (ABI) BIPAB a Choleg Adfer Cyflyrau Niwrolegol Niwrostiwt
Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe - Datblygu Llwybr Cymorth Trawma i Staff y GIG
Iechyd a Gofal Digidol Cymru - Gwella Effeithlonrwydd Archwilio ac Ysbrydoli Archwilwyr Mewnol y Dyfodol
Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan - Gwella ein Hymchwiliadau Gweithwyr
Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr - Y Bartneriaeth Gweithgaredd Anabledd Iechyd
Elusen Iechyd Caerdydd a'r Fro - Ein Dôl Iechyd – Parod at y Dyfodol
Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan - Grwpiau Coginio Cydweithredol - gweithio i wella sgiliau bywyd, iechyd a llesiant defnyddwyr gwasanaethau iechyd meddwl cymunedol
Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr - Dull APPLE o leihau thrombosis a gafwyd yn yr ysbyty y gellir ei atal
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda - Newid Diwylliant yn y Gweithle ac Ymwneud Amlddisgyblaethol â Risg a Llywodraethu Clinigol Mamolaeth a Newyddenedigol
Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan - HOUDINI: Gwnewch i'r cathetr ddiflannu! Protocol Tynnu Cathetr Wrinol dan Arweiniad Nyrsys
Gwasanaeth Gwaed Cymru - Gwella gofal cleifion drwy drawsnewid mynediad at ddata cleifion sydd wedi cael trawsblaniad aren ledled Cymru: Gweithredu dangosfwrdd digidol data byw ar y cyd
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda - Profion Imiwnocemegol ar Ysgarthion (FIT) ym maes gofal sylfaenol – dull arloesol o brofi’n ddiogel, yn effeithiol ac o wella gofal cleifion
Rhwydwaith Canser Cymru - Cydweithrediad rhwng Rhwydwaith Canser Cymru a holl Fyrddau Iechyd Cymru: Dull partneriaeth i sefydlu Clinigau Diagnosis Cyflym (RDCs) ledled Cymru
Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan - Gwasanaeth Effaith Uchel BIPAB - Gwaith aml-asiantaeth i gefnogi cleifion sy'n defnyddio gwasanaethau'n aml
Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe - Cydweithrediad rhwng Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe (BIPBA) ac Amser i Newid Cymru (TtCW) i ddarparu hyfforddiant i Staff y GIG i Herio Stigma a Gwahaniaethu ym maes Iechyd Meddwl
Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg - Addasu Cardbord at Dibenion Gwahanol: partneriaeth beilot rhwng Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg ac ELITE Paper Solutions
Bydd y panel beirniadu nawr yn cynnal ymweliad rhithwir gyda phob un sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol i gael rhagor o wybodaeth am y prosiectau a gweld drostynt eu hunain y buddion y maent wedi'u cynnig i gleifion. Mae pob panel beirniadu yn cynnwys arbenigwyr o bob rhan o GIG Cymru, y sector cyhoeddus a chyrff proffesiynol.
Bydd yr enillwyr yn cael eu cyhoeddi mewn seremoni ar 26 Hydref yng Nghaerdydd.