Neidio i'r prif gynnwy

Mae ceisiadau ar gyfer Gwobrau GIG Cymru 2023 ar agor

Mae’r gwobrau’n dathlu gwaith gwella sydd wedi trawsnewid y profiad a’r canlyniadau i bobl yng Nghymru.

Y llynedd derbyniom geisiadau gan rai timau gwych. Mae cyflwyno cais yn ffordd wych o arddangos doniau staff GIG Cymru.

Gall unrhyw un sy'n gweithio i GIG Cymru gystadlu yn y Gwobrau gan gynnwys myfyrwyr. Bydd yr enillwyr yn cael cynnig cefnogaeth barhaus. Bydd ganddynt lwyfan i rannu eu gwaith yn lleol, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol fel y gallwn helpu i ddarparu gofal diogel, effeithiol a dibynadwy.

Mae ceisiadau ar agor tan 5pm 3 Gorffennaf 2023 - Darllenwch y canllaw cystadlu cyn cyflwyno cais. Pob lwc!