Neidio i'r prif gynnwy

Gwobrau GIG Cymru 2022


 
Mae Gwobrau GIG Cymru yn ôl ar gyfer 2022 ar adeg pan rydym yn gobeithio gadael y gwaethaf o'r pandemig y tu ôl i ni ac edrych ymlaen gyda gobaith at y dyfodol.

Mae'r gwasanaeth cyfan wedi wynebu heriau enfawr dros y ddwy flynedd ddiwethaf ac rydym i gyd yn falch iawn o gyflawniadau anhygoel GIG Cymru, yn enwedig yn ystod y cyfnod hwn.

Mae'r gwobrau hyn yn un ffordd o ddathlu rhagoriaeth ac arddangos talentau staff iechyd a gofal yng Nghymru wrth i ni symud ymlaen.