Neidio i'r prif gynnwy

Anturiaethau yn helpu pobl i wella o seicosis

Mae ffilm fer newydd a gyhoeddwyd gan Gwelliant Cymru wedi amlygu’r effaith gadarnhaol y mae therapi antur yn ei chael ar bobl sy’n dioddef o seicosis.

O ddringo mynyddoedd i badlfyrddio ar eich traed ac archwilio coetiroedd, mae anturiaethau yn yr awyr agored yn profi i fod yn ymyrraeth effeithiol i helpu pobl i fod yn iach unwaith eto.

Mae gwasanaethau Ymyrraeth Gynnar mewn Seicosis (EIP) ar draws GIG Cymru yn ymgysylltu â rhaglen therapi antur genedlaethol, sy’n annog pobl sy’n dioddef o seicosis i gymryd rhan mewn mentrau seiliedig ar brofiad er mwyn gwella eu llesiant a’u helpu i fod yn iach unwaith eto.

Yn rhan o’r fenter, mae grwpiau o bobl sy'n gwella o seicosis wedi bod yn dringo Pen y Fan, yn padlfyrddio ar eu traed ac yn mynd allan i'r coetir. 

Mae’r sawl sydd wedi cymryd rhan wedi dweud bod ymgymryd â’r heriau awyr agored wedi eu helpu i adfer eu hyder, mwynhau cymdeithasu, a theimlo eu bod yn cymryd camau tuag at wella.

Dywedodd Andrea Gray, Arweinydd Datblygu Iechyd Meddwl yn Gwelliant Cymru: “Yn rhan o’r cynnig gofal arferol gan wasanaethau EIP yng Nghymru, mae rhaglenni therapi antur yn cynorthwyo unigolion i roi cynnig ar brofiadau newydd sy’n cynnig cyfle i ymgymryd â her bersonol ond mewn amgylcheddau diogel â chymorth. Mae tystiolaeth i ddangos bod defnyddio mannau awyr agored yn y modd hwn yn helpu pobl i wella, gan symud yr ymyrraeth therapiwtig i ffwrdd o leoliadau clinigol. 

“Ledled Cymru, mae mentrau therapi antur yn cael eu darparu ar lefel leol ac yn rhoi cyfle ar gyfer cysylltiad cymdeithasol ac ymgysylltu â gweithgareddau sy’n gwella cymhelliant, hyder, a llesiant corfforol.

“Mae’r gwelliannau hyn yn amlwg wrth wylio’r bobl yn y fideo, ac rydym yn edrych ymlaen at weld rhagor o bobl yn elwa ar y therapi antur yn y dyfodol.”

Mae seicosis yn broblem iechyd meddwl sy'n peri i bobl brofi neu ddehongli pethau'n wahanol i'r rhai o'u cwmpas. Mae'n cael ei drin yn fwyaf effeithiol yn ei gamau cynnar.

Fel rhan o raglen waith genedlaethol EIP, sydd dan arweiniad Gwelliant Cymru, mae gwasanaethau EIP ledled Cymru yn helpu pobl ifanc i wella ac adennill bywyd o safon dda ar ôl pwl cyntaf o seicosis (FEP). Mae’r gwasanaethau yn helpu mwy na 10,000 o bobl ifanc bob blwyddyn yn y DU.

Gwyliwch y fideo i weld sut mae her therapi antur yn llwyddo i helpu pobl ifanc i wella o seicosis.

Mae modd cael rhagor o wybodaeth am wasanaethau EIP ar ein tudalennau gwe EIP.

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Michaela Morris, Arweinydd y Rhaglen, Michaela.Morris@wales.nhs.uk neu Katie Cole, Uwch Reolwr Gwella, katie.cole@wales.nhs.uk.