Neidio i'r prif gynnwy

Newidiadau i Dîm Gweithredol Gwelliant Cymru

Bydd John Boulton, Cyfarwyddwr Cenedlaethol Gwella Ansawdd a Diogelwch Cleifion y GIG/Cyfarwyddwr Gwelliant Cymru, yn gadael Gwelliant Cymru ym mis Mawrth 2024 i ddilyn ei her yrfa nesaf.

Dywedodd John Boulton, “Mae wedi bod yn fraint enfawr gweithio ochr yn ochr â chynifer o bobl dalentog dros y pum mlynedd a hanner diwethaf yma. Rwy'n falch iawn o'r hyn y mae Gwelliant Cymru wedi'i gyflawni ar lefel genedlaethol ac rwy’n hyderus y bydd y tîm ynghyd â chydweithwyr ehangach y GIG yn parhau i gael effaith ystyrlon ar wasanaethau ledled Cymru”.

Bydd John yn parhau i arwain cyfarwyddiaeth Gwelliant Cymru hyd at 31 Mawrth 2024 a bydd gwaith cyfredol y tîm ehangach yn parhau fel y’i cynlluniwyd.