Neidio i'r prif gynnwy

Syniad prosiect a ddatblygwyd yng Nghymru yn ennill cyllid gan Gyfnewidfa Q

Rydym yn gyffrous i rannu bod prosiect a gyflwynwyd gan aelodau Q o Adran Seicoleg Iechyd Meddwl a Therapïau Seicolegol Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg mewn cydweithrediad â chydweithwyr yn Gwelliant Cymru wedi bod yn llwyddiannus wrth gael cyllid yng Nghyfnewidfa Q y Sefydliad Iechyd eleni. Mae Cyfnewidfa Q yn cynnig cyfle i aelodau Q ddatblygu syniadau am brosiectau a chyflwyno ceisiadau am hyd at £40,000 o gyllid. Eleni, gofynnodd Cyfnewidfa Q am syniadau ar sut y gellir defnyddio gwelliannau i leihau oedi wrth gael mynediad at wasanaethau iechyd a gofal.

Bydd y tîm sydd y tu ôl i’r prosiect yn cynnal digwyddiad cyd-gynhyrchu ar gyfer pobl sy'n aros am therapïau seicolegol ar hyn o bryd, i gynhyrchu syniadau o'r hyn a fyddai'n galluogi unigolion i aros cystal â phosibl. Dan arweiniad mentor cymheiriaid, bydd un syniad yn cael ei ddewis ar gyfer prawf newid. Rhagwelir y bydd gan yr hyn a ddysgir o’r prosiect hwn botensial i ledaenu ac ehangu ar gyfer pobl ar restrau aros therapïau seicolegol ledled Cymru.

Dywedodd Andrea Gray, Arweinydd Datblygu Iechyd Meddwl Cymru yn Gwelliant Cymru, “Rydym wrth ein bodd bod ein prosiect wedi derbyn cyllid. Bydd yn ein galluogi i ddysgu oddi wrth bobl sy’n aros am ymyriadau seicolegol ar hyn o bryd i ddatblygu a gweithredu prawf newid wedi’i gyd-gynhyrchu sy’n cefnogi ‘agenda aros cystal â phosibl’.”

Llongyfarchiadau i holl enillwyr Cyfnewidfa Q 2023.

Dysgwch ragor am y prosiect gwych hwn a'r holl syniadau buddugol yma.