Yr wythnos diwethaf, ymunodd Gwelliant Cymru â 3000 o bobl o dros 47 o wledydd yn y Fforwm Rhyngwladol ar Ansawdd a Diogelwch mewn Gofal Iechyd yn Copenhagen, Denmarc.
Mae'r Fforwm yn dod â'r gymuned ryngwladol ar gyfer gwella ansawdd a diogelwch cleifion ar draws iechyd a gofal ynghyd ac mae'n rhoi cyfle gwych i glywed safbwyntiau arweinwyr gwella allweddol o bob rhan o'r byd.
Ar ddiwrnod 2 y Fforwm, cynhaliodd Sarah-Jane James, Uwch Reolwr Gwella yn Gwelliant Cymru, sesiwn â Richeldis Yhap (Rish), unigolyn â phrofiad bywyd.
Dangosodd Sarah y dull cyfannol a ddefnyddiwyd i gyflwyno a gwreiddio 'Mesurau Canlyniadau a Adroddir gan Gleifion/Unigolion' (PROMS) a 'Mesurau Profiad a Adroddir gan Gleifion/Unigolyn' (PREMS) i dimau iechyd meddwl ac anabledd dysgu ledled Cymru. Mae dros 1,000 o staff iechyd meddwl ac anableddau dysgu o 418 o dimau yng Nghymru bellach wedi cael yr hyfforddiant Mesurau Canlyniadau. Rhannodd Rish ei mewnwelediad ar y broses o gyd-gynhyrchu a phwysleisiodd bwysigrwydd ymgysylltu â defnyddwyr gwasanaeth wrth greu newid.
Am ragor o wybodaeth, edrychwch ar y daflen a'r sleidiau o'r sesiwn.
Ar ddiwrnod olaf y Fforwm, cyflwynodd Susan Hannah o’r Sefydliad Gwella Gofal Iechyd sesiwn ar ‘Opsiynau amgen i dderbyn cleifion i’r ysbyty a chadw cleifion yn ddiogel’ a oedd yn cynnwys cyflwyniad ar sut mae Fframwaith y Sefydliad Gwella Gofal Iechyd (IHI) ar gyfer Gofal Diogel, Dibynadwy ac Effeithiol yn cael ei ddefnyddio ar hyn o bryd fel rhan o’r Grŵp Cydweithredol ar gyfer Gofal Diogel i gefnogi dull system gyfan o ymdrin â diogelwch cleifion yng Nghymru.
Cafodd posteri o bob rhan o Gwelliant Cymru eu harddangos yn y Fforwm hefyd. Gallwch weld a lawrlwytho'r posteri isod.
Mwynhaodd tîm Gwelliant Cymru greu cysylltiadau ac arddangos y gwaith sy'n digwydd ar draws system GIG Cymru. Os hoffech chi fod yn rhan o waith gwella a chael yr wybodaeth ddiweddaraf, cofrestrwch i gael ein cylchlythyr.