Neidio i'r prif gynnwy

Cyllid Newydd ar Gael ar gyfer Prosiectau Gwella Anabledd Dysgu

Photo courtesy of Natasha Hirst/Through Our Eyes

Mae cyllid grant newydd ar gael i helpu i wella bywydau pobl sydd ag anabledd dysgu yng Nghymru.

Mae tîm Gwella Anabledd Dysgu Gwelliant Cymru wedi darparu grantiau gwella o hyd at £25,000 i alluogi prosiectau a fydd yn cefnogi bywydau pobl ag anabledd dysgu trwy welliant.

Nod y grantiau gwella newydd, a fydd ar gael o fis Ebrill 2023, yw annog timau ym meysydd iechyd, gofal cymdeithasol ac addysg i archwilio ffyrdd newydd o weithio neu ddatblygu syniadau arloesol yn realiti.

Mae’r sector cyhoeddus yn parhau i ymateb i bwysau parhaus a newidiol ac adfer o bandemig COVID-19 ac mae’r grantiau gwella yn rhoi cyfle i harneisio a datblygu syniadau arloesol sydd wedi dod i’r amlwg ac wedi newid sut mae gwasanaethau’n cael eu darparu. 

Gall prosiectau gwella sy’n gymwys ar gyfer y grantiau gwella amrywio o ran maint a hyd. Mae’r meysydd sydd o ddiddordeb allweddol yn cynnwys: 

  • Mentrau diogelwch (gallant fod mewn unrhyw leoliad perthnasol)
  • Ymyrraeth blynyddoedd cynnar
  • Pontio o wasanaethau plant i wasanaethau oedolion
  • Cydgynhyrchu
  • Dulliau o leihau arfer cyfyngol
  • Gwella ansawdd gofal, cymorth ac addysg
  • Ymyrraeth gynnar ac atal
  • Cefnogaeth i bobl sy'n profi argyfwng
  • Gwella mynediad at wasanaethau

Bydd y grantiau gwella ar gael i sefydliadau sector cyhoeddus, gwasanaethau, timau neu aelodau o staff, a gellir eu defnyddio mewn partneriaeth â sefydliadau eraill megis partner trydydd sector neu ddarparwr gofal.

Bydd prosiectau a hwylusir gan y grantiau gwella yn cefnogi gwaith y tîm Gwella Anabledd Dysgu i wella bywydau pobl ag anabledd dysgu drwy leihau anghydraddoldeb, fel rhan o Gynllun Gweithredu Strategol Anabledd Dysgu 2022 i 2026 Llywodraeth Cymru.


Mwy na grant

Fel rhan o'r cyfle, bydd y tîm Gwella Anabledd Dysgu yn cynnig anogaeth, cyngor, hyfforddiant ac adnoddau i’r rhai a fydd yn derbyn y grantiau gwella. Bydd hyn yn cefnogi'r prosiect gwella a fydd yn cael ei ariannu ac yn galluogi timau i gyflawni prosiectau tebyg yn y dyfodol.

Mae’r cymorth y gall y tîm ei gynnig yn cynnwys:

  • Hyfforddiant a sgiliau gwella
  • Hyfforddiant a chyngor gwella yn ystod eich prosiect
  • Mynediad i ystod o rwydweithiau gwella

Dywedodd David O'Brien, Uwch Reolwr Gwella yn y tîm Gwella Anabledd Dysgu: “Mae’r tîm Gwella Anabledd Dysgu yn gweithio i gefnogi syniadau newydd, rhannu dysgu ac ysgogi newid, ac rydym wedi ein cyffroi gan y cyfle hwn i weithio gyda chydweithwyr ar draws y GIG, gofal cymdeithasol ac addysg sy’n parhau i arloesi.

“Mae’r grantiau gwella hyn yn cynnig cyfle newydd i roi prosiectau ar waith sy’n archwilio newidiadau sy’n sicrhau gwelliant cynaliadwy a’r rhai nad ydynt yn gwneud hynny. Mae hyn wrth wraidd pob gwasanaeth diogel o ansawdd uchel.

“Rydym yn cydnabod bod gwelliant yn dod o bob lliw a llun, ac y gall cyfres o newidiadau bach fod yr un mor effeithiol â phrosiect gwella mwy. Felly byddem yn sicr yn annog cyflwyno ceisiadau sydd angen cyfran fach yn unig o gyfanswm y cyllid sydd ar gael.”


Gwnewch gais nawr

Os ydych yn barod i wneud cais am grant gwella, cwblhewch y ffurflen gais am grant yma cyn 5pm ddydd Llun 17 Ebrill 2023. Bydd panel yn adolygu’ch cais ac yn rhoi gwybod i chi a ydych wedi bod yn llwyddiannus.

Os hoffech ragor o wybodaeth am y grantiau, os ydych am drafod a yw grant yn briodol i gefnogi eich syniad newid, neu os hoffech gael rhagor o wybodaeth am sut y gall y tîm eich cefnogi chi, e-bostiwch Rebecca.curtis7@wales.nhs.uk a David.O'Brien2@wales.nhs.uk am wybodaeth am gyfres o sesiynau galw heibio rhithwir sy'n cael eu trefnu.