Neidio i'r prif gynnwy

Gwelliant Cymru yn dod yn rhan o Weithrediaeth GIG Cymru

O 1 Ebrill 2023, daw Gwelliant Cymru yn rhan o Weithrediaeth GIG Cymru, ochr yn ochr â Chydweithrediad Iechyd GIG Cymru a’r Uned Gyflawni a’r Uned Cyflawni Ariannol.

Fel is-gorff i Weithrediaeth GIG Cymru, bydd Gwelliant Cymru yn gweithredu ar ffurf cysgodol am y 12 mis cyntaf cyn ymuno’n ffurfiol â Gweithrediaeth GIG Cymru ym mis Ebrill 2024.

Mae hyn yn golygu y gall Gwelliant Cymru barhau i ddarparu cymorth parhaus fel rhan o gynlluniau gwaith cyfredol, yn ogystal â gweithio ochr yn ochr â chydweithwyr yng Ngweithrediaeth GIG Cymru i ddarparu cymorth unedig ar draws system GIG Cymru.

Dywedodd John Boulton, Cyfarwyddwr Gwelliant Cymru: “Rydym yn parhau i ganolbwyntio ar gefnogi’r gwaith o greu system iechyd a gofal o'r ansawdd gorau i Gymru fel bod gan bawb fynediad at ofal diogel, effeithiol ac effeithlon yn y lle iawn ac ar yr adeg iawn.

Mae gennym ni gyfle gwych yn awr i gysylltu â chydweithwyr yng Ngweithrediaeth GIG Cymru i ddarparu cymorth unedig ar draws system GIG Cymru.

“Rwyf am roi sicrwydd i’r bobl a’r timau rydym yn gweithio gyda nhw bod gwaith Gwelliant Cymru yn parhau, gan gynnwys y rhaglen Gofal Diogel Gyda’n Gilydd gyda’r Sefydliad Gwella Gofal Iechyd (IHI) a byrddau ac ymddiriedolaethau iechyd GIG Cymru, ac ystod o waith cymorth a gomisiynir yn genedlaethol ar y cyd â phartneriaid allweddol.”

I gael rhagor o wybodaeth, gallwch ddarllen y Datganiad Ysgrifenedig ar Weithrediaeth y GIG yma.