Mae gwaith gwella sydd wedi’i wneud ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan (BIPAB) wedi cynyddu cyflymder prosesu samplau brys lle mae amheuaeth o ganser yn ei labordy Patholeg Gellol.
Mae'r tîm yn BIPAB yn ymgymryd â'r gwaith fel rhan o'r prosiect Llwybrau Lle Mae Amheuaeth o Ganser. Mae’r prosiect a gaiff ei ariannu gan Rwydwaith Canser GIG Cymru a'i weithredu mewn partneriaeth â Gwelliant Cymru a'r gwneuthurwr cerbydau Toyota, yn cefnogi timau ym mhob rhan o GIG Cymru i leihau’r amser rhwng yr amheuaeth o ganser a’r diagnosis.
Fel rhan o'r prosiect, mynychodd tîm BIPAB hyfforddiant dwys yng Nghanolfan Rheoli Darbodus Toyota yng Nglannau Dyfrdwy, lle buont yn dysgu o System Gynhyrchu Toyota (TPS) y gwneuthurwr ceir sy’n fyd-enwog Yma byddent yn dysgu am effeithiolrwydd dull Methodoleg Ddarbodus Toyota a Muda, gair Japaneaidd sy'n golygu gwastraff – ac yn benodol am amser ac adnoddau yn y cyd-destun hwn.
Anogwyd y tîm i feddwl am bob agwedd ar ei brosesau a'i amgylchedd gwaith a'u cwestiynu. Nod yr ymarfer oedd canfod a lleihau gwastraff a chreu diwylliant darbodus yn y labordy.
Wedi'u hysbrydoli gan yr hyn yr oeddent wedi'i ddysgu yn Toyota, aeth staff yn y Labordy Patholeg Gellol (BIPAB) ati i roi’r dull Methodoleg Ddarbodus ar waith. Dechreuon nhw drwy edrych ar eu proses o ddadansoddi samplau meinwe i adnabod canser y fron, y croen a'r ysgyfaint. Wrth edrych ar y data dros gyfnod o sawl mis, nododd y tîm mai dim ond ffracsiwn o'r samplau cyfan oedd yn cael eu paratoi - 20% mewn gwirionedd - oedd yn cael eu defnyddio ac oedd yn wir angenrheidiol i'w harchwilio gan y tîm.
Roedd gorbrosesu samplau meinwe wedi creu ôl-groniad o waith, gan ofyn am adnoddau ychwanegol ac allanol. Ar ôl nodi, trwy ddata sy'n seiliedig ar dystiolaeth, nad oedd angen 80% o'r samplau, tynnodd y tîm y gwastraff diangen hwn o'u gweithdrefn brosesu. O fewn cyfnod byr, llwyddodd y prosiect gwella, gyda chefnogaeth newidiadau eraill, i leihau'r ôl-groniad yn sylweddol a chynyddu cyfradd prosesu'r samplau 50%. Rhoddodd hyn hefyd hwb oedd mawr ei angen i forâl staff.
Dywedodd Jonathan Clarke, Cyfarwyddwr Meddygol Cynorthwyol Gwella Ansawdd ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan ac Arweinydd Clinigol ar gyfer Gwelliant Cymru: "Mae effeithiau rhyfeddol y gwelliant hwn gan y tîm Patholeg Gellol eisoes yn cael eu teimlo ar draws y gwasanaeth. Rwyf wedi cael llawer o gydweithwyr ymgynghorol, sy'n gweithio o fewn gwasanaethau canser, yn rhoi sylwadau ar faint yn gyflymach mae'r canlyniadau patholeg yn cael eu prosesu gan arwain at lai o oedi i gleifion."
Dywedodd Jeff Turner, Arweinydd Clinigol Llwybr Lle Mae Amheuaeth o Ganser ar gyfer Rhwydwaith Canser GIG Cymru: "Mae'r prosiect gwych yma’n dangos y cyfleoedd sylweddol sy'n bodoli i wella gwasanaethau i'n cleifion trwy ganolbwyntio ar effeithlonrwydd gyda sut rydym yn gweithio. Mae'n gyffrous gweld yr effaith uniongyrchol y mae hyn yn ei chael o fewn BIPAB ac ystyried y manteision cadarnhaol i'r gwasanaeth ehangach wrth symud ymlaen."