Neidio i'r prif gynnwy

'Aros cystal â phosibl' - Mae syniad am brosiect a ddatblygwyd yng Nghymru ar y rhestr fer ar gyfer cyllid y Gyfnewidfa Q

Rydym wrth ein bodd i rannu bod cynnig a gyflwynwyd gan aelodau Q o Adran Seicoleg Iechyd Meddwl a Therapïau Seicolegol Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg mewn cydweithrediad â chydweithwyr yn Gwelliant Cymru wedi cyrraedd y rhestr fer yng Nghyfnewidfa Q y Sefydliad Iechyd eleni. Mae'r Gyfnewidfa Q yn cynnig cyfle i aelodau Q ddatblygu syniadau am brosiectau a chyflwyno ceisiadau am hyd at £40,000 o gyllid.

Os bydd syniad y prosiect yn llwyddiannus yn y rownd derfynol hon, bydd y tîm yn cynnal digwyddiad cyd-gynhyrchu ar gyfer pobl sy'n aros am therapïau seicolegol ar hyn o bryd, i gynhyrchu syniadau o'r hyn a fyddai'n galluogi unigolion i aros cystal â phosibl. Dan arweiniad mentor cymheiriaid, bydd un syniad yn cael ei ddewis ar gyfer prawf newid. Rhagwelir y bydd gan yr hyn a ddysgir o’r prosiect hwn botensial i ledaenu ac ehangu ar gyfer pobl ar restrau aros therapïau seicolegol ledled Cymru.

Dywedodd Andrea Gray, Arweinydd Datblygu Iechyd Meddwl Cymru, Gwelliant Cymru, “Bu’r rhan fwyaf o bobl a oedd yn aros am ymyriad seicolegol yn ddewr wrth ofyn am help gyda’u hiechyd meddwl a gall gorfod parhau i ymdopi â theimladau anodd a thrallodus wrth aros am help fod yn wirioneddol anodd. Rydym eisiau cyd-gynhyrchu’r cymorth y gallwn ei gynnig yn ystod y cyfnod hwn gyda’r bobl sy’n aros, er mwyn galluogi pobl i o leiaf – ‘aros cystal â phosibl’.” 

Dysgwch ragor am y tîm a syniad y prosiect gwych hwn yma.

Os ydych yn aelod o Gymuned Q, mewngofnodwch a phleidleisiwch dros yr unig brosiect o Gymru i gyrraedd y rhestr fer. Bydd y pleidleisio’n dod i ben ar 6 Mehefin.