Neidio i'r prif gynnwy

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro yn gwella llwybrau cleifion allanol fel rhan o'r Gydweithredfa Gofal Diogel


Mae’r tîm Llunio Newid ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro (BIP) yn cyflwyno dull newydd tuag at apwyntiadau dilynol i wella profiad cleifion a chynorthwyo gyda’r pwysau ar dimau clinigol.

Mae’r tîm Llunio Newid ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro (BIP) yn cyflwyno dull newydd tuag at apwyntiadau dilynol i wella profiad cleifion a chynorthwyo gyda’r pwysau ar dimau clinigol.

Mae'r prosiect, sy'n rhan o ffrwd gwaith cymunedol y Gydweithredfa Gofal Diogel, yn gweithio i gynyddu nifer y cleifion allanol sy'n cael eu rhoi ar lwybrau Sylw yn ôl Symptomau (SOS)  ac Apwyntiadau Dilynol ar Gais y Claf (PIFU).

Mae llwybrau SOS a PIFU yn grymuso cleifion priodol â chyflyrau tymor byr a thymor hir i gychwyn eu hapwyntiadau dilynol eu hunain yn ôl yr angen, yn hytrach na chael eu gweld fel mater o drefn mewn apwyntiadau nad oes eu hangen arnynt o reidrwydd.

Mae'r newid dull yn rhyddhau amser i glinigwyr reoli eu llwythi achosion a'u rhestrau aros, gan eu galluogi i weld cleifion cymhleth a'r rhai sy'n aros am apwyntiad cychwynnol.

Mae adborth yn dangos bod modelau gofal SOS a PIFU hefyd yn arwain at ganlyniadau a phrofiadau gwell i gleifion, gyda rhestrau aros byrrach a mwy o fynediad at eu tîm arbenigol y tu allan i’r apwyntiadau dilynol arferol. Maent hefyd yn cael effaith gadarnhaol ar lefelau cyfraddau 'heb fynychu' (DNA).

Mae Llunio Newid, tîm gwella ac arloesi’r bwrdd iechyd wedi bod yn gweithio ers hydref 2021 ar ôl iddynt fynychu’r Academi Lledaeniad a Graddfa. Ers gwanwyn eleni, mae'r tîm wedi bod yn cynnal sbrint i gyflymu gweithrediad SOS a PIFU ar draws y sefydliad. Hyd yma mae dros 27,000 o gleifion ar lwybr SOS a dros 2,500 o gleifion ar lwybrau PIFU ar draws y sefydliad - cynnydd o tua 4,500 o gleifion i gyd ers dechrau sbrint Llunio Newid.

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro yn amcangyfrif bod y sbrint a’r cleifion ychwanegol a ychwanegwyd at lwybrau SOS a PIFU wedi arbed tua £1.3 miliwn o ran osgoi apwyntiadau diangen, gan ganiatáu i’r amser clinigol gwerthfawr hwnnw gael ei ddefnyddio i weld y cleifion sydd ei angen fwyaf. Yn ogystal, mae hyn wedi arbed amcangyfrif o 18.3 tunnell o garbon trwy leihau teithiau cleifion i safleoedd gofal eilaidd y BIP ac yn ôl.

Fel rhan o’u hymdrechion, mae’r tîm wedi gweithio ochr yn ochr â chydweithwyr digidol ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro i sefydlu dangosfwrdd SOS a PIFU mewnol sy’n galluogi clinigwyr i olrhain eu cleifion ar y llwybrau hyn, a chyflwyno trosolwg gweledol o’r cynnydd a wneir mewn arbenigeddau unigol ac ar draws y bwrdd iechyd.

Uchelgais pellach y tîm yw lledaenu’r modelau gofal ledled Cymru, ac mae wedi gweithio gyda Llywodraeth Cymru i ddatblygu gwefan genedlaethol Outpatients.wales ar gyfer timau clinigol sy’n gweithio ar draws holl fyrddau iechyd Cymru i gyrchu amrywiaeth o adnoddau i’w helpu i weithredu a defnyddio llwybrau SOS a PIFU yn effeithiol yn eu hardaloedd, gan gynnwys meini prawf ar gyfer nodi cleifion addas, llythyrau templed, diagramau llif a mwy.

Mae Vicki Burrell, arweinydd prosiect Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro hefyd wedi cadeirio grŵp datblygu SOS a PIFU cenedlaethol Cymru ers gwanwyn 2022.

Dywedodd Vicki: “Mae bod yn rhan o’r Gydweithredfa Gofal Diogel wedi bod yn werthfawr i’r tîm, gan roi’r cyfle i rannu eu dysgu am weithredu’r llwybrau SOS a PIFU gyda chydweithwyr ar draws GIG Cymru fel rhan o’n huchelgais ar gyfer lledaenu’r llwybrau ledled Cymru.

“Mae’r rhaglen gydweithredol hefyd wedi rhoi mewnwelediad, adborth a her i’r tîm gan gydweithwyr ledled y wlad o fewn strwythur cefnogol, gan eu galluogi i ystyried gwahanol safbwyntiau fel rhan o’u gwaith.”

Dywedodd Dominique Bird, Dirprwy Gyfarwyddwr a Phennaeth Gwella Ansawdd Gwelliant Cymru, “Mae’r gwaith gwych gan dîm BIP Caerdydd a’r Fro i wreiddio llwybrau SOS a PIFU yn enghraifft wych o sut y gall gweithredu gwelliant gael effaith gadarnhaol sylweddol ar gleifion, clinigwyr ac adnoddau. 

“Rwy’n falch iawn o weld bod y Gydweithredfa Gofal Diogel wedi rhoi hwb i waith SOS a PIFU ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro, sydd yn ei dro yn rhoi cyfleoedd dysgu gwerthfawr i dimau sy’n cyflawni gwelliannau ledled Cymru.”

I gael rhagor o fanylion am y Gydweithredfa Gofal Diogel, ewch i'n tudalennau gwe, yma.