Neidio i'r prif gynnwy

Cydweithredfa Gofal Diogel

Mae’r Gydweithredfa Gofal Diogel yn dod â byrddau iechyd ac ymddiriedolaethau ledled Cymru ynghyd i gyflymu prosiectau gwella a fydd yn gwella diogelwch cleifion ledled GIG Cymru.

Dros gyfnod penodol o 15 mis, mae Gwelliant Cymru a’r Sefydliad Gwella Gofal Iechyd (IHI) yn darparu hyfforddiant a chymorth wedi’u teilwra i wasanaethau a thimau ledled GIG Cymru i helpu i gyflymu prosiectau gwella presennol er mwyn gwella gofal diogel ac effeithiol.

Mae timau’n cyflwyno prosiectau ar draws ffrydiau gwaith gofal cymunedol, gofal dydd a gofal acíwt, ochr yn ochr â ffrwd waith Arweinyddiaeth ar gyfer Gwella Diogelwch Cleifion sy’n cefnogi mabwysiadu’r systemau dysgu sefydliadol, y diwylliant a’r amgylcheddau gwaith sydd eu hangen er mwyn i welliant ffynnu.

Darllenwch drwy ein tudalennau i gael rhagor o wybodaeth am Y Gydweithredfa Gofal Diogel a’r gweithgarwch gwella sy’n cael ei roi ar waith gan dimau ynddo.