Neidio i'r prif gynnwy

Mae data newydd yn dangos y gyfran uchaf erioed o blant oedran Derbyn sydd dros bwysau neu'n ordew yng Nghymru

Dengys ystadegau swyddogol diweddaraf Rhaglen Mesur Plant Iechyd Cyhoeddus Cymru fod 27.3 y cant o blant pedair a phump oed yng Nghymru dros bwysau neu’n ordew — y gyfradd uchaf a gofnodwyd yng Nghymru gyfan ers i'r rhaglen ddechrau yn 2014-2015. 

Mae'r rhaglen yn cofnodi taldra a phwysau plant mewn dosbarthiadau Derbyn ledled Cymru. Mae adroddiad eleni’n cynnwys 28,512 o blant yn y canfyddiadau, sef 94.7 y cant o blant pedair a phump oed, a'r lefel cyfranogiad uchaf erioed. 

Roedd cyfran y plant sy'n byw gyda gordewdra yn 12.8 y cant, yn uwch na'r ffigurau a adroddwyd ar gyfer Lloegr (10.5 y cant) a'r Alban (11.8 y cant). Mae'r data hefyd yn tynnu sylw at gysylltiad clir ag amddifadedd gan fod cyfrannau gordewdra yn ardaloedd mwyaf difreintiedig Cymru (15.6 y cant) tua 75 y cant yn uwch nag yn yr ardaloedd lleiaf difreintiedig (8.9 y cant). 

Dywedodd Rachel Bath, Ymgynghorydd Iechyd y Cyhoedd ac arweinydd Blynyddoedd Cynnar yn Iechyd Cyhoeddus Cymru: "Mae'r canfyddiadau hyn yn tanlinellu pa mor bwysig yw'r blynyddoedd cynnar i blant. Gwyddom fod gan Gymru uchelgeisiau cryfion i roi’r dechrau gorau mewn bywyd i blant, ac mae’r data hyn yn ein helpu i ddangos ble y gall ymdrech ar y cyd wneud y gwahaniaeth mwyaf. 

"Mae'r sylfeini ar gyfer pwysau iach a dyfodol iach yn cael eu gosod o feichiogrwydd drwodd i ddechrau yn yr ysgol. Mae cefnogi twf iach yn gynnar ym mywyd plentyn yn cynnig un o'n cyfleoedd cryfaf i leihau anghydraddoldebau a gwella canlyniadau, yn enwedig i blant sy'n tyfu i fyny mewn cymunedau mwy difreintiedig. 

"Nid yw hyn yn ymwneud â rhieni sydd â diffyg gwybodaeth na chymhelliant. Mae teuluoedd yn dweud wrthym yn gyson eu bod am wneud eu gorau dros eu babanod a'u plant bach, ond gall yr amgylcheddau o'u cwmpas wneud dewisiadau iach yn anoddach i'w cyflawni. Mae creu'r amodau lle mae'r dewis iach yn ddewis hawdd yn gofyn am gamau cydgysylltiedig ar draws iechyd, bwyd, gofal plant, manwerthu, cymunedau a gwasanaethau cyhoeddus. 

"Rydym yn edrych ymlaen at weithio gyda Llywodraeth Cymru, partneriaid, rhieni a gofalwyr i alluogi plant ledled Cymru i ffynnu." 

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru’n gweithio gyda phartneriaid i drosi'r dystiolaeth hon yn gamau ymarferol. Mae hyn yn cynnwys adolygu’r dirwedd darpariaeth bwyd genedlaethol mewn lleoliadau blynyddoedd cynnar, gweithio gyda manwerthwyr i archwilio sut y gallai'r amgylchedd bwyd babanod gefnogi dewisiadau iachach yn well, ac ymgysylltu'n uniongyrchol â chymunedau i ddeall y rhwystrau bywyd go iawn y mae rhieni'n eu hwynebu. 

Mae penodi Arweinydd Cenedlaethol Bwydo ar y Fron parhaol yn darparu arweinyddiaeth genedlaethol benodedig, ochr yn ochr â'r Tîm Blynyddoedd Cynnar ac Iechyd Plant ehangach. 

Ychwanegodd Rachel Bath: "Mae gwella canlyniadau yn y blynyddoedd cynnar yn gyfrifoldeb a rennir. Mae newid parhaol yn dibynnu ar gydweithio cryf, gyda pherchnogaeth a rennir dros ganlyniadau a gwell cydlyniad rhwng polisïau, cyllid a darpariaeth. Mae buddsoddi tymor hwy cydlynol yn rhoi'r sefydlogrwydd sydd ei angen ar wasanaethau lleol, cymunedau a theuluoedd i gynllunio a chyflwyno'r hyn sy'n gweithio. 

"Gall rhieni gyrchu’r cyngor a'r canllawiau diweddaraf drwy adnoddau digidol Iechyd Cyhoeddus Cymru, sy'n cwmpasu pob cam o blentyndod hyd at saith oed. Mae'r adnoddau hyn wedi'u dylunio i fod yn glir ac yn ymarferol, gan gefnogi teuluoedd gyda gwybodaeth ddibynadwy am iechyd a llesiant ochr yn ochr â gwasanaethau ehangach sydd ar gael ledled Cymru.