Cyhoeddwyd: 06 Mai 2026
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi ysgrifennu at rieni a gofalwyr sydd â phlant mewn ysgolion cynradd yn y Barri i ofyn iddyn nhw sicrhau eu bod nhw a'u plant yn arbennig o ofalus wrth olchi eu dwylo, oherwydd bod brigiad o achosion o Hepatitis A yn y dref. Haint feirysol yw hwn sy'n effeithio ar yr afu. Salwch ysgafn yw hepatitis A yn y rhan fwyaf o achosion, ac mae'r rhan fwyaf o bobl yn gwella'n llwyr heb broblemau iechyd hirdymor.
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn gweithio gyda thimau'r bwrdd iechyd lleol a'r cyngor i ymchwilio i nifer fach o achosion o Hepatitis A o'r un straen, sydd wedi'u nodi mewn tair aelwyd ar wahân yn y Barri. Mae'r wybodaeth sydd gennym am y straen hwn yn awgrymu y gallai'r haint fod wrthi’n lledaenu'n lleol.
Mae tîm o arbenigwyr iechyd wedi cael eu dwyn ynghyd i ddeall yn well sut mae'r haint yn lledaenu, ac i sicrhau bod y camau cywir yn cael eu cymryd. Mae'r rhai sydd wedi bod yn sâl yn derbyn gofal priodol ac yn gwella'n dda.
Fel rhagofal, mae'r bobl sydd wedi bod mewn cysylltiad agos â'r rhai sydd wedi cael eu heintio eisoes wedi cael cynnig i gael eu brechu. Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cysylltu â phawb y nodwyd bod angen brechiad arnynt. Nid oes angen i chi gysylltu â'ch meddyg teulu i ofyn am frechiad oni bai bod angen un arnoch chi i deithio i wlad lle mae Hepatitis A yn gyffredin iawn.
Dywedodd Susan Mably, Ymgynghorydd Diogelu Iechyd yn Iechyd Cyhoeddus Cymru:
“Hoffen ni ddiolch i bobl yn y Barri am eu cefnogaeth wrth inni ymchwilio i’r clystyrau hyn o achosion.
“Ar hyn o bryd, rydyn ni’n ysgrifennu at rieni sydd â phlant mewn ysgolion cynradd yn y Barri i ofyn iddyn nhw sicrhau bod eu plant yn golchi eu dwylo er mwyn atal yr haint rhag lledaenu ymhellach.
“Y ffordd orau o atal Hepatitis A rhag lledaenu yw golchi dwylo’n drylwyr gyda sebon a dŵr. Mae hyn yn bwysig ar ôl defnyddio'r toiled, newid cewynnau a chyn paratoi neu fwyta bwyd.
“Efallai na fydd rhai plant ifanc sydd wedi’u heintio yn dangos symptomau, ond gallan nhw ledaenu’r haint i bobl eraill a all fynd yn sâl wedyn. Dylai rhieni a gofalwyr helpu plant ifanc i olchi eu dwylo’n iawn, a’u hatgoffa nhw i wneud hynny. Os ydych chi neu'ch plentyn yn teimlo'n sâl, ac mae gennych chi symptomau fel twymyn, teimlo'n flinedig iawn, diffyg archwaeth, teimlo eich bod chi am chwydu neu chwydu, neu os yw’ch croen neu’ch llygaid yn felyn, dylech chi gysylltu â'ch meddyg teulu neu GIG 111 Cymru.
Mae rhagor o wybodaeth am Hepatitis A ar gael ar wefan GIG 111 Cymru, neu yn Hepatitis A - Iechyd Cyhoeddus Cymru.