Neidio i'r prif gynnwy

Hepatitis A

Trosolwg 

Haint ar yr iau/afu a achosir gan y feirws hepatitis A (HAV) yw hepatitis A. Gellir ei ddal yn y DU er bod cyfran fawr o’r bobl sy'n cael eu heintio’n dal y feirws pan fyddant dramor.
 
Mae haint hepatitis A i’w weld yn y DU ond mae'n fwy cyffredin mewn gwledydd lle gall safon y glanweithdra a gwaredu carthion fod yn wael (yn enwedig Affrica, gogledd a de Asia, Canol America a de a dwyrain Ewrop). Effeithir yn fawr hefyd ar wledydd ag economïau sy'n pontio a rhai rhanbarthau o wledydd diwydiannol lle mae’r amodau glanweithdra yn is na’r safon, e.e. yn nwyrain Ewrop a rhai rhannau o'r Dwyrain Canol. 
 

Haint

Mae feirws hepatitis A yn cael ei ysgarthu yng ngharthion pobl sydd wedi’u heintio a gall gael ei basio i bobl eraill pan gaiff bwyd ei lygru â charthion wedi’u heintio neu os rhoddir gwrthrych wedi’i lygru yn y geg (trosglwyddo o’r carthion i’r geg).

Mae hepatitis A yn haint acíwt (tymor byr) yn hytrach na haint cronig (tymor hir) ac mae’r rhan fwyaf o gleifion yn gwella’n llwyr heb unrhyw effeithiau parhaus. Mae’r symptomau’n eithaf ysgafn mewn plant ifanc fel rheol, ond gall fod yn salwch difrifol ymhlith oedolion hŷn. Mae hepatitis A yn angheuol mewn tua 0.2% o’r achosion ond mae’r gyfradd hon yn codi i tua 1.8% mewn unigolion dros 50 oed.             

Nid oes triniaeth benodol ar gyfer hepatitis A.
 

Hepatitis A yn y DU

Gall haint hepatitis A yn y DU naill ai fod yn achosion gwasgaredig, fel achosion ledled y gymuned o ganlyniad i drosglwyddo o berson i berson neu, yn anghyffredin, fel achosion o ffynhonnell benodol sy'n gysylltiedig â bwyd wedi’i lygru.

Yn ystod y degawdau diwethaf yn y DU, bu nifer o achosion o hepatitis A mewn nifer o wledydd yn Ewrop, hefyd ymhlith dynion sy'n cael rhyw gyda dynion (MSM), defnyddwyr cyffuriau chwistrellu, a phobl ddigartref mewn sawl gwlad gan gynnwys y DU.
 

Atal

Gellir atal haint hepatitis A gyda brechiad, a argymhellir ar gyfer y rhai sy’n wynebu risg gynyddol.
 

Mwy o wybodaeath

Mae mwy o wybodaeth am hepatitis A, gan gynnwys gwybodaeth am frechiadau hepatitis A a phwy maent yn cael eu hargymell ar eu cyfer, ar gael gan Galw Iechyd Cymru Ar-lein

Ar gyfer data ac adroddiadau ar hepatitis A yng Nghymru, edrychwch ar ddangosfwrdd hepatitis A Iechyd Cyhoeddus Cymru yma.  

Mae mwy o wybodaeth am gyfansoddiad brechiadau, gan gynnwys brechiad hepatitis A ac imiwnoglobwlin, ar gael ym mholisi a llawlyfr cyfarwyddyd Public Health England 'Immunisation Against Infectious Diseases' (y 'Green Book') sydd ar gael o wefan gov.uk yma.