Neidio i'r prif gynnwy

Cyfle ariannu – Cyfnewidfa Q

Mae rownd nesaf Cyfnewidfa Q, sef y rhaglen ariannu gyfranogol sydd â grantiau o hyd at £40,000 bellach ar agor am syniadau.

Beth yw'r Gyfnewidfa Q?

Mae'r Gyfnewidfa Q yn rhaglen ariannu gydweithredol, a gefnogir gan y Sefydliad Iechyd a GIG Lloegr. Mae’n cynnig cyfle i aelodau Q ddatblygu a chyflwyno eu syniadau arloesol. Mae'n rhaid i dimau prosiect gael eu harwain gan aelod Q drwy gydol y prosiect ond gallant gynnwys pobl nad ydynt eto'n rhan o'r gymuned.

Thema eleni:

Mae thema eleni yn edrych ar sut y gall gwelliannau leihau oedi cyn y gellir defnyddio gwasanaethau iechyd a gofal ac mae’n canolbwyntio ar un neu fwy o’r meysydd canlynol:

  1. Ailgynllunio gofal i wneud y defnydd gorau o amser a sgiliau'r rhai sy'n defnyddio ac yn darparu gwasanaethau.
  2. Deall a gwella sut mae gwahanol rannau o'r system yn gweithio gyda'i gilydd i ddiwallu anghenion cleifion / defnyddwyr gwasanaeth o ran manteisio ar wasanaethau.
  3. Gwella’r ffordd y caiff rhestrau aros eu blaenoriaethu a’u rheoli.
  4. Cysylltu â’r gweithlu a’i rymuso i gydweithio a defnyddio dulliau gwella i leihau amseroedd aros.

Pam ddylai timau yng Nghymru gymryd rhan?

Mae hwn yn gyfle gwych i dimau yng Nghymru gydweithio a rhannu eu sgiliau gydag aelodau o’r Gymuned Q i ddatblygu a phrofi syniadau arloesol newydd neu rai sydd eisoes yn bodoli. Yn aml bydd prosiectau llwyddiannus yn darparu ysbrydoliaeth a dysgu y gellir eu defnyddio mewn sefyllfaoedd eraill. Roedd Andrew Ware, Uwch Reolwr Gwella, Gwelliant Cymru, yn ymwneud â phrosiect a ariannwyd yn llwyddiannus, Ail Bresgripsiynu – ailddylunio trwy gyd-ddylunio yn 2018. Meddai Andrew '“Heb y Gyfnewidfa Q, ni fyddai ein prosiect wedi digwydd. Trwy'r broses, gwnaethom rai cysylltiadau gwych a oedd yn cysylltu â darnau eraill o waith. Hyd yn oed flynyddoedd yn ddiweddarach rydym yn dal i gael diweddariadau ar ganlyniadau’r gwaith hwn a’r effaith hirdymor y mae wedi’i chael i wella’r sefyllfa’n barhaus.”

Sut i wneud cais?

Archwiliwch a chyflwynwch eich syniadau i'r Gyfnewidfa Q rhwng dydd Mawrth 14 Chwefror a dydd Mawrth 7 Mawrth trwy wefan Q

Os hoffech gael rhagor o wybodaeth am y broses ymgeisio, rydym yn argymell yn gryf eich bod yn ymuno â gweithdy Q, 'Sut i wneud cais am y Gyfnewidfa Q' ddydd Mercher 22 Chwefror, 12.00-13.00.

Os hoffech drafod eich syniad, cysylltwch â thîm y Gyfnewidfa Q: Qexchange@health.org.uk.