Neidio i'r prif gynnwy

Lansio'r Gydweithredfa Gofal Diogel

Lansiwyd y Gydweithredfa Gofal Diogel rhwng Gwelliant Cymru, y Sefydliad Gwella Gofal Iechyd (IHI) a byrddau iechyd ac ymddiriedolaethau GIG Cymru ddydd Mawrth 29 Tachwedd gan y Gweinidog Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Eluned Morgan AS.

Digwyddodd y lansiad yn ystod y cyntaf o gyfres o sesiynau dysgu ar gyfer y gydweithredfa, sy’n creu system ddysgu lle mae sefydliadau’n profi a mesur arloesiadau i arferion ac yn rhannu eu profiadau i gyflymu dysgu a gweithredu arfer da yn eang ar gyfer gofal diogel.

Trwy ddwyn ynghyd timau, hyfforddwyr, swyddogion gweithredol ac uwch arweinwyr diogelwch o’r holl fyrddau iechyd ac ymddiriedolaethau, bydd y gydweithredfa’n rhoi cyfle i sefydliadau ddysgu gan ei gilydd.

Mae’n ddarn cyffrous o waith a wneir trwy’r Bartneriaeth Gofal Diogel, sy’n canolbwyntio ar flaenoriaethau diogelwch cyffredin a amlygwyd ledled Cymru ac y cytunwyd arnynt gan brif weithredwyr byrddau iechyd ac ymddiriedolaethau trwy ffrydiau gwaith Arwain ar gyfer Diogelwch CleifionYmweliadau Safle Sylfaenol a Hyfforddi ar gyfer Diogelwch Cleifion y bartneriaeth.

Gan ddefnyddio’r blaenoriaethau diogelwch cyffredin hynny, bydd y gydweithredfa’n gweithio i gyflawni gwelliannau ar draws arweinyddiaeth ym maes diogelwch cleifion, yn ogystal ag ar draws lleoliadau gofal cymunedol, gofal dydd a gofal acíwt.

Bydd timau ledled Cymru yn cymryd rhan mewn cyfanswm o chwe sesiwn ddysgu chwarterol trwy’r gydweithredfa, yn cynnwys amrywiaeth o brif siaradwyr, trafodaethau grŵp a gweithdai. Diben y rhain yw cynorthwyo’r cyfranogwyr i ledaenu ac addasu graddfa gwelliannau trwy eu sefydliadau ac ar draws Cymru. Byddant hefyd yn cael sesiynau hyfforddi gyda’r Sefydliad Gwella Gofal Iechyd a chymorth ar y safle gan arweinwyr diogelwch cleifion, a Gwelliant Cymru.

Gallwch weld fideo sy’n crynhoi sesiwn ddysgu gyntaf y Gydweithredfa Gofal Diogel yma:

Bydd amrywiaeth o gynnwys arall ar ffurf fideos, blogiau a chyfryngau cymdeithasol yn cael eu cyhoeddi o sesiwn ddysgu gyntaf y gydweithredfa drwy gydol mis Rhagfyr, y gallwch eu dilyn ar gyfrifon Facebook, Twitter a LinkedIn Gwelliant Cymru, ac ar draws sianeli cyfathrebu mewnol. 

I gael rhagor o wybodaeth, ymwelwch â thudalennau’r Gydweithredfa Gofal Diogel.