Neidio i'r prif gynnwy

Gwasanaeth Call 4 Concern yn lledaenu i BIP Caerdydd a'r Fro

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro  (BIP) wedi cyflwyno Call 4 Concern i'w ysbytai, ar ôl i BIP Betsi Cadwaladr ddod â'r gwasanaeth i Gymru yn llwyddiannus.

Mae Gwasanaeth Call 4 Concern yn galluogi cleifion ysbyty a'u teuluoedd i alw am gymorth a chyngor ar unwaith os ydynt yn poeni nad yw'r tîm gofal iechyd wedi cydnabod na gweithredu ar bryderon ynghylch iechyd sy'n dirywio.

Mae'r gwasanaeth yn cael ei gyflwyno yn BIP  Caerdydd a’r Fro gan y Tîm Cleifion sydd mewn Perygl, sy'n darparu ymateb amserol a phriodol i gleifion â newidiadau acíwt a sydyn mewn cyflwr ar draws yr holl ardaloedd cleifion mewnol i oedolion yn safleoedd Ysbyty Prifysgol Cymru ac Ysbyty Athrofaol Llandochau, ac eithrio'r unedau mamolaeth ac argyfwng.

Ar ôl derbyn galwad Call 4 Concern, bydd aelod o'r Tîm Cleifion sydd mewn Perygl yn ymweld â'r claf ar y ward ac yn ei adolygu. Ar ôl asesu'r sefyllfa a chysylltu â'r tîm meddygol a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol eraill yn ôl yr angen, bydd y tîm o ymarferwyr profiadol yn gweithio ochr yn ochr â thimau clinigol yn y ward i sicrhau bod yr ymyrraeth angenrheidiol yn cael ei gweithredu.

Mae'r prosiectau i weithredu gwasanaethau Call 4 Concern yn BIP Caerdydd a’r Fro a BIP Betsi Cadwaladr yn ddau o dros 40 o brosiectau yn y Cydweithrediad Gofal Diogel, a ddarperir gan Gwelliant Cymru mewn partneriaeth â'r Sefydliad Gwella Gofal Iechyd (IHI).  Mae'n dwyn ynghyd gydweithwyr o bob rhan o GIG Cymru i ddysgu oddi wrth ei gilydd a darparu prosiectau gwella er budd ansawdd a diogelwch gofal ledled y wlad. 

Fel rhan o'r prosiect cydweithredol 18 mis o hyd, mae'r cyfranogwyr yn derbyn hyfforddiant a chefnogaeth wedi'i deilwra gan Gwelliant Cymru ac Sefydliad Gwella Gofal Iechyd i redeg prosiectau gwella ledled Cymru.  

Dywedodd Fiona Davies, ymarferydd nyrsio yn Nhîm Cleifion sydd mewn Perygl BIP Caerdydd a’r Fro: “Rydym yn falch o fod yn lansio gwasanaeth Call 4 Concern yn ein hysbytai i sicrhau bod ymateb priodol pan fydd cleifion a’u teuluoedd yn codi pryderon bod eu hiechyd yn dirywio.

“Mae’r Gydweithredfa Gofal Diogel wedi darparu llawer o gyfleoedd gwych i gydweithio â thimau ledled GIG Cymru, gan rannu ein profiad a’n dysgu, ychwanegu mewnwelediadau gwerthfawr i’n gwaith, a derbyn arweiniad arbenigol gan Gwelliant Cymru ac Sefydliad Gwella Gofal Iechyd ar ddefnyddio dulliau trefnus ac effeithiol o wella.

“Mae’r Gydweithredfa wedi ein helpu i sefydlu perthynas ystyrlon gyda’r tîm ymyrraeth acíwt yn BIP Betsi Cadwaladr, sydd wedi ein galluogi i ddysgu o’u profiad o lansio Call 4 Concern yng ngogledd Cymru fel y gallwn efelychu’r gorau o’u gwaith yn yr hyn yr ydym ni’n ei wneud yma.”

I ddechrau, lansiodd tîm ymyrraeth acíwt Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr y Gwasanaeth Call 4 Concern fel cynllun peilot 18 mis, yn gyntaf i gleifion a ryddhawyd i wardiau o’r uned gofal dwys, cyn ei ehangu i un o wardiau llawfeddygol yr ysbyty.

Ar ôl ymuno â'r Gydweithredfa Gofal Diogel, lansiwyd y Gwasanaeth Call 4 Concern yn ffurfiol ar draws gwasanaethau cleifion mewnol oedolion Ysbyty Gwynedd ym mis Ebrill 2023.

Mae ymyriadau drwy'r gwasanaeth wedi cael effaith sylweddol ar ddiogelwch cleifion, sydd wedi cynnwys atal cleifion rhag gorfod derbyn gofal dwys.

Dywedodd Dominique Bird, Dirprwy Gyfarwyddwr a Phennaeth Gwella Ansawdd Gwelliant Cymru, “Mae’n wych gweld Tîm Cleifion sydd mewn Perygl BIP Caerdydd a’r Fro yn adeiladu ar lwyddiant cydweithwyr yn BIP Betsi Cadwaladr wrth lansio gwasanaeth Call 4 Concern, ac rydym yn edrych ymlaen at eu cefnogi i wneud hynny yn llwyddiannus.

“Rydym yn falch o’r rôl y mae’r Cydweithrediad Gofal Diogel wedi’i chwarae wrth ddod â’r timau ynghyd, mae wedi arfogi tîm BIP Caerdydd a’r Fro gyda chyfoeth o ddysgu i gefnogi gweithrediad llwyddiannus y gwasanaeth.

“Mae cydweithredu a dysgu a rennir fel hyn ar draws ein systemau iechyd yn amcan allweddol y Gydweithredfa Gofal Diogel, ac wrth i brosiectau a gyflwynir gyda’i chefnogaeth symud tuag at aeddfedrwydd, rydym yn gobeithio gweld mwy o dimau ledled GIG Cymru yn dysgu o’r llwyddiannau er budd gofal cleifion ledled y wlad.”

I gael manylion am y Gydweithredfa Gofal Diogel, ewch i'n tudalennau gwe, yma.