Neidio i'r prif gynnwy

Prosiect Llwybrau Lle Mae Amheuaeth o Ganser yn ehangu i ganolbwyntio ar batholeg gellog

Mae prosiect sy'n ceisio lleihau'r amser mae’n ei gymryd i wneud diagnosis o ganserau yng Nghymru wedi cael ei ehangu ymhellach i ganolbwyntio ar batholeg gellog. 

Nod y prosiect Llwybrau Lle Mae Amheuaeth o Ganser, sy’n cael ei ariannu gan y Rhwydwaith Clinigol Strategol Cenedlaethol ar gyfer Canser a'i weithredu mewn partneriaeth â Gwelliant Cymru a'r gwneuthurwr cerbydau Toyota, yw cefnogi timau ym mhob rhan o GIG Cymru i ddefnyddio methodoleg Ddarbodus er mwyn symleiddio llwybrau cleifion lle mae amheuaeth o ganser.

Fel rhan o'r prosiect, mae timau canser amlddisgyblaethol sy'n cymryd rhan yn gweithio gyda Chanolfan Rheoli Darbodus Toyota i ddeall sut mae modd defnyddio egwyddorion System Gynhyrchu Toyota ar gyfer llwybrau canser, tra bod arbenigwyr o Gwelliant Cymru yn cefnogi timau i ddatblygu a gweithredu eu syniadau am newid.

Ar draws dau gam, mae’r prosiect eisoes wedi cefnogi saith tîm canser amlddisgyblaethol GIG Cymru i ganfod cyfleoedd i wella llwybrau ar draws canser yr ysgyfaint, canser gynaecolegol, canser wrolegol, canser y colon a’r rhefr a chanser gastroberfeddol, ac ymgorffori arbenigedd mewn gwelliant parhaus i wella gwasanaethau canser ledled Cymru.

Bydd trydydd cam newydd y prosiect yn cynnwys cynnal archwiliad dwfn o wasanaethau patholeg gellog ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe a Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan i ganfod cyfleoedd ar gyfer symleiddio prosesau, allai gael eu mabwysiadu ledled Cymru.

Dywedodd Chris Coslett, Rheolwr Rhaglen y Rhwydwaith Canser: “Mae ymestyn y prosiect partneriaeth hwn, gyda ffocws penodol ar wasanaethau patholeg, yn rhoi cyfle cyffrous i ysgogi newid mewn gwasanaethau lleol ac i ganfod dysgu allweddol fydd yn gallu cael ei gyflwyno ledled Cymru yn y dyfodol, gyda’r potensial i gael effaith gadarnhaol ar ystod eang o lwybrau canser.”

Ychwanegodd Iain Roberts, pennaeth rhaglenni Gwelliant Cymru: "Mae patholeg gellog yn rhan hanfodol o lwybrau canser, felly mae ehangu'r prosiect Llwybrau Lle Mae Amheuaeth o Ganser i archwilio'n ddyfnach y potensial i wella yn y maes hwn yn gyfle dysgu cyffrous iawn.

"Mae natur patholeg gellog sy'n cael ei gyrru gan broses yn addas iawn i'r dull Darbodus y mae Toyota yn cynnig arbenigedd ynddo. Ochr yn ochr â’n partneriaid yn Toyota a’r Rhwydwaith Clinigol Strategol Cenedlaethol ar gyfer Canser, rydyn ni’n edrych ymlaen at weithio gyda’r tri thîm patholeg gellog i nodi cyfleoedd dysgu a gwella fydd yn gallu cael eu rhannu ledled Cymru.”

Darganfyddwch fwy am Lwybrau Lle Mae Amheuaeth o Ganser ar wefan Rhwydwaith Canser Cymru.