Neidio i'r prif gynnwy

Grŵp Cydweithredol ar gyfer Gofal Diogel yn agosáu at 40 o brosiectau gwella

Mae Gwelliant Cymru wedi cadarnhau bod 37 o brosiectau gwella yn cael eu cefnogi gan y Grŵp Cydweithredol ar gyfer Gofal Diogel ym myrddau iechyd ac ymddiriedolaethau GIG Cymru.

Mae’r fenter gydweithredol yn darparu hyfforddiant a chymorth arbenigol wedi’i deilwra i dimau, hyfforddwyr, swyddogion gweithredol ac uwch arweinwyr gan Gwelliant Cymru a’r Sefydliad Gwella Gofal Iechyd (IHI) i wella a chyflymu prosiectau gwella.

Gan gefnogi gwasanaethau ledled Cymru i gyflawni prosiectau gwella effeithiol ar draws ffrydiau gwaith gofal acíwt, dydd a gofal yn y gymuned, credir mai’r gwaith gan y grŵp cydweithredol yw’r gweithgarwch gwella ehangaf erioed i uno system iechyd Cymru.

Mae ei bedwaredd ffrwd waith, Arweinyddiaeth ar gyfer Gwella Diogelwch Cleifion, yn arwain arweinwyr trwy'r Fframwaith ar gyfer Gofal Diogel, Dibynadwy ac Effeithiol, gan gefnogi datblygiad systemau sefydliadol, diwylliant ac amgylcheddau gwaith dysgu a fydd yn galluogi gwelliant i ffynnu am flynyddoedd i ddod.

Dywedodd Dominique Bird, Dirprwy Gyfarwyddwr a Phennaeth Gwella Ansawdd Gwelliant Cymru, “Mae byrddau iechyd ac ymddiriedolaethau ledled Cymru wir wedi croesawu’r Grŵp Cydweithredol ar gyfer Gofal Diogel fel cyfle amserol i gyflymu gwelliannau i ddiogelwch cleifion ar draws eu systemau iechyd.

“Mae cydlynu, cefnogi a gwella cymaint o brosiectau trwy’r Grŵp Cydweithredol ar gyfer Gofal Diogel yn rhoi mwy o ffocws ar y cyd ar wella gofal cleifion, a fydd yn cynyddu’r gwaith gwych y mae byrddau iechyd ac ymddiriedolaethau yn ei wneud i gyflawni blaenoriaethau cenedlaethol ar gyfer darparu gofal diogel. 

“Mae’n bwysig cydnabod bod hwn yn gyfnod anodd i sefydliadau’r GIG ledled y wlad. Fodd bynnag, yn wyneb yr heriau hynny rydym wedi gweld ymgysylltiad ac ymrwymiad anhygoel ymhlith yr aelodau i gyflawni gwelliant gyda chymorth y Grŵp ar gyfer Gofal Diogel.

“Mae Gwelliant Cymru yn cefnogi ac yn rhannu’r ymrwymiad hwnnw’n llwyr, ac rydym yn edrych ymlaen yn fawr at symud datblygu gwaith y Grŵp Cydweithredol ar gyfer Gofal Diogel gyda thimau er mwyn cyflawni GIG Cymru gwell yn ei flaen.”


Mae'r Grŵp Cydweithredol ar gyfer Gofal Diogel yn rhan o'r Bartneriaeth Gofal Diogel rhwng sefydliadau'r GIG ledled Cymru, Gwelliant Cymru ac IHI, sydd â’r nod o wella ansawdd a diogelwch gofal ar draws eu systemau.

Dros daith â ffocws o 15 mis, bydd aelodau’n cymryd rhan mewn cyfres o sesiynau dysgu a fydd yn cynnwys amrywiaeth o siaradwyr gwadd, trafodaethau grŵp, gweithdai cynllunio a sesiynau sgiliau wedi’u cynllunio i gefnogi cyfranogwyr i ledaenu ac ehangu gwelliannau trwy eu sefydliadau a ledled Cymru. Byddant hefyd yn derbyn sesiynau hyfforddi a chymorth ad-hoc gan IHI a Gwelliant Cymru.

Mae'r grŵp cydweithredol yn dilyn cyfnodau Arwain ar gyfer Diogelwch Cleifion,Ymweliadau Safle Cychwynnol a Hyfforddiant ar Ddiogelwch Cleifion y Bartneriaeth Gofal Diogel, a gefnogodd bartneriaid i ddeall a datblygu'r diwylliant, systemau dysgu, arweinyddiaeth a chapasiti hyfforddi i hwyluso gwella diogelwch cleifion.

Dysgwch ragor am y Grŵp Cydweithredol ar gyfer Gofal Diogel ar ein tudalennau gwe yma, neu os oes gennych chi brosiect gwella y credwch y gallai elwa o fod yn rhan o’r grŵp cydweithredol, cysylltwch â’ch cyswllt yn Gwelliant Cymru.