Neidio i'r prif gynnwy

Cydweithio i wneud gwahaniaeth: sut mae Gwelliant Cymru yn cyflymu gwelliannau gyda GIG Cymru

Rydym yn falch iawn o allu rhannu Adroddiad Blynyddol cyntaf Gwelliant Cymru gyda chi. Dros y 12 mis diwethaf, rydym wedi gweld ehangder a dyfnder ein gwaith yn cynyddu. Un ffocws allweddol fu gweithio mewn partneriaeth â sefydliadau GIG Cymru i ddarparu goruchwyliaeth a chymorth traws-system i adeiladu’r amodau, y galluogrwydd a’r systemau i alluogi i welliant ffynnu.

Ymunwch â ni i fyfyrio ar rywfaint o’r gwaith gwella anhygoel sy’n digwydd ar draws system y GIG yng Nghymru i ddarparu gofal diogel, effeithiol a dibynadwy, yn y lle iawn ac ar yr amser iawn.

Gwelliannau lefel system

Fe lansiwyd y Bartneriaeth Gofal Diogel gyda sefydliadau GIG Cymru a’r Sefydliad Gwella Gofal Iechyd (IHI) i gyflymu maint a nifer y gwelliannau mewn diogelwch cleifion ar raddfa genedlaethol. Mae agwedd o'r bartneriaeth hon yn canolbwyntio ar flaenoriaethau diogelwch cyffredin, gan ddarparu arbenigedd hyfforddi wedi'i deilwra drwy'r Gydweithredfa Gofal Diogel. Rydym yn cefnogi nifer fawr o brosiectau gwella ledled y GIG yng Nghymru, ar draws pedair ffrwd waith, arweinyddiaeth, gofal acíwt, gofal dydd a gofal cymunedol. Credir mai’r gydweithredfa yw’r gweithgaredd gwella ehangaf erioed i uno system iechyd Cymru.

Gwelliannau Iechyd Meddwl ac Anabledd Dysgu

Mae Iechyd Meddwl Gwelliant Cymru wedi cyflenwi hyfforddiant Mesurau Canlyniadau i dros 1,000 o gydweithwyr GIG i gefnogi gwasanaethau iechyd meddwl, tra bod Anabledd Dysgu Gwelliant Cymru wedi ymgymryd â rhaglen waith iechyd corfforol, datblygu adnoddau i bobl ag anabledd dysgu, lansio hyfforddiant ar-lein a chyd-gynhyrchu ymgyrch brechlynnau hygyrch.

Gwelliannau diogelwch wedi’u targedu

Cynhaliwyd cam Darganfod cenedlaethol ar gyfer y Rhaglen Gymorth Diogelwch Mamolaeth a Newyddenedigol GIG Cymru (MatNeoSSP) newydd i sicrhau bod dulliau clir a chyson o wella diogelwch mamolaeth a newyddenedigol ym mhob gwasanaeth yng Nghymru. Ymgorfforwyd 14 o Hyrwyddwyr Lleol MatNeoSSP yn Ymddiriedolaeth Gwasanaethau Ambiwlans Cymru ac ar draws pob bwrdd iechyd i gyflenwi’r rhaglen. Hefyd, mae ein partneriaeth gyda Rhwydwaith Canser Cymru wedi cryfhau, wrth i ni barhau i gefnogi gwaith i wella’r amser yn y llwybr canser, o’r pwynt amheuaeth hyd at ddyddiad diagnosis.

Meithrin galluogrwydd

Mae Academi Gwelliant Cymru wedi cynyddu ei phortffolio hyfforddiant gwella trwy ddatblygu pum cwrs newydd. Mae'r cyrsiau hyn yn rhad ac am ddim ac ar gael nawr i bob gweithiwr iechyd a gofal sydd â diddordeb mewn dysgu a datblygu eu sgiliau gwella.

Edrych ymlaen

Dim ond ychydig o uchafbwyntiau’r gwaith gwych a gyflawnwyd dros y 12 mis diwethaf yw’r rhain. Ynghyd â’n partneriaid a’n cydweithwyr ar draws GIG Cymru, rydym yn gosod y sylfeini i greu dull cynaliadwy o wella a diogelwch cleifion. Dros y flwyddyn nesaf, bydd cyfleoedd sylweddol i ehangu a gwella eu partneriaethau ymhellach wrth iddynt drosglwyddo'n raddol i'r Weithrediaeth GIG Cymru newydd ym mis Ebrill 2024.

Darllenwch ein Hadroddiad Blynyddol yma i ddysgu mwy am y gwaith gwella anhygoel sy’n ffynnu ar draws y system yng Nghymru.