Neidio i'r prif gynnwy

Partneriaeth Gofal Diogel

Mae Gwelliant Cymru, y Sefydliad Gwella Gofal Iechyd (IHI) a byrddau iechyd ac ymddiriedolaethau GIG Cymru wedi dod ynghyd i greu’r Bartneriaeth Gofal Diogel. 


Sefydlodd Gwelliant Cymru y bartneriaeth i gyflymu ac ehangu gwelliannau o ran diogelwch cleifion ar raddfa genedlaethol trwy ddwyn ynghyd arbenigedd rhyngwladol, cefnogaeth genedlaethol a gwybodaeth leol. 

Trwy'r Bartneriaeth Gofal Diogel, mae byrddau iechyd ac ymddiriedolaethau yn cael eu hyfforddi a'u cefnogi gan Gwelliant Cymru ac IHI i wella ansawdd a diogelwch gofal ar draws eu systemau. Cyhoeddiad ‘Fframwaith ar gyfer Gofal Diogel, Dibynadwy ac Effeithiol’ IHI yw'r map ffordd ar sail tystiolaeth sy'n llywio'r bartneriaeth.