Neidio i'r prif gynnwy

Gofal Diogel Gyda'n Gilydd

Gwelliant Cymru yw'r gwasanaeth gwella ar gyfer GIG Cymru. Ein nod yw cefnogi creu system iechyd a gofal o'r ansawdd gorau i Gymru fel bod gan bawb fynediad at ofal diogel, effeithiol ac effeithlon yn y lle iawn ac ar yr adeg iawn ar draws y system ofal gyfan.

Rydym yn gweithio ochr yn ochr â sefydliadau i greu'r amodau, adeiladu’r gallu a gwneud y cysylltiadau ar gyfer gwelliant i ffynnu ar draws y system gyfan. Drwy gydweithio, gallwn ddefnyddio gwelliant i drawsnewid er mwyn helpu i adeiladu Cymru iachach.

Er mwyn cyflawni ein nod, mae gennym dair blaenoriaeth strategol:

  • Cefnogi sefydliadau iechyd a gofal i ail-ddylunio a gwella'r gwasanaeth y maent yn ei ddarparu yn barhaus.
  • Cefnogi ffocws ar leihau niwed y gellir ei osgoi a diogelwch o fewn systemau gofal.
  • Adeiladu’r gallu i wella’n gynaliadwy yn y system iechyd a gofal.

Er mwyn ein galluogi i gyflawni hyn, rydym wedi datblygu Gofal Diogel Gyda'n Gilydd, sydd wedi'i gynllunio i alluogi Gwelliant Cymru i hyfforddi a chefnogi sefydliadau i wella ansawdd a diogelwch gofal ar draws eu systemau, er mwyn ymgorffori Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Ansawdd ac Ymgysylltu) (Cymru).

Bydd Gwelliant Cymru yn gweithio mewn partneriaeth â phob ymddiriedolaeth a bwrdd iechyd sy'n dymuno ymuno â'r rhaglen.  Drwy gymorth wedi'i gydgysylltu'n genedlaethol ac wedi'i ddarparu'n lleol, byddwn yn helpu sefydliadau i nodi eu blaenoriaethau gwella diogelwch, ac yna'n datblygu a chyflawni eu cynlluniau gwella pwrpasol eu hunain.

Ar ran GIG Cymru, rydym wedi partneru â’r Sefydliad Gwella Gofal Iechyd (IHI) i greu’r Partneriaeth Gofal Diogel gyda byrddau iechyd ac ymddiriedolaethau ledled Cymru. Byddwn yn gweithio mewn partneriaeth i gefnogi lledaenu a chynyddu gwella diogelwch cleifion o fewn sefydliadau yn dilyn proses o greu'r amodau, adeiladu'r gallu a gwneud y cysylltiadau.

Darllenwch fwy am ein strategaeth a chysylltwch â ni i'w datblygu ymhellach.