Neidio i'r prif gynnwy

Adroddiad Blynyddol 2022-2023

 

 
Mae ein Hadroddiad Blynyddol cyntaf yn arddangos y gwaith rydym wedi bod yn ei wneud gyda'r GIG yng Nghymru i gyflymu gwelliannau.

Yn ystod y 12 mis diwethaf gwelwyd ehangder a dyfnder ein gwaith yn cynyddu, i gefnogi sefydliadau i ddarparu gofal diogel, effeithiol a dibynadwy yn y lle iawn ac ar yr amser iawn ar draws y system ofal gyfan.

Gan weithio mewn partneriaeth â sefydliadau GIG Cymru, rydym yn gosod sylfeini i sicrhau dull cynaliadwy o wella, gan atgyfnerthu ein cymorth i alluogi sefydliadau i feithrin diwylliant cynaliadwy o wella a diogelwch cleifion, a chefnogi arweinwyr trwy wella cenedlaethol a hyfforddiant diogelwch cleifion. Rydym wedi cefnogi llawer o weithgareddau a rhaglenni i fwrw ymlaen â gwelliannau system gyfan ar draws GIG Cymru.

Mae’r flwyddyn nesaf yn cynnig cyfle sylweddol i ehangu a gwella ein partneriaethau ymhellach wrth i ni drosglwyddo’n raddol i'r Weithrediaeth GIG Cymru newydd ym mis Ebrill 2024.