Neidio i'r prif gynnwy

Gadewch i ni ddathlu eich rhagoriaeth mewn gwelliant ac ansawdd yng Ngwobrau GIG Cymru 2024

Mae'r Gwobrau yn ôl ac yn cynnwys 12 categori newydd i arddangos gwaith gwella ar draws iechyd a gofal yng Nghymru.

Mae eleni’n argoeli i fod hyd yn oed yn fwy ysbrydoledig wrth i ni ehangu nifer y categorïau i dynnu sylw pellach at y gwaith gwella anhygoel sy’n digwydd ledled Cymru. Mae’r gwobrau’n agored i bawb sy’n gweithio ar draws GIG Cymru gan gynnwys staff a myfyrwyr clinigol ac anghlinigol.

Dywedodd Yr Athro John Boulton, Cyfarwyddwr Cenedlaethol Gwella Ansawdd a Diogelwch Cleifion y GIG, “Cafodd y gwobrau eleni ychydig o weddnewidiad ac mae ein panel beirniaid yn edrych ymlaen yn fawr at weld y mathau o brosiectau a fydd yn cael eu cyflwyno. Mae'n bwysig arddangos y dalent sydd gennym ar draws GIG Cymru, ac mae hwn yn llwyfan gwych i wneud hynny. Mae wedi bod yn anrhydedd cael bod yn rhan o'r gwaith ers cymaint o flynyddoedd a dymunaf bob lwc i chi i gyd”.


Pam cystadlu...?

Mae cystadlu yng Ngwobrau GIG Cymru eleni yn gyfle gwych i ddathlu eich gwaith gwella ansawdd a diogelwch sydd wedi trawsnewid profiadau a chanlyniadau i bobl sy'n byw yng Nghymru. Beth bynnag fo'r newid, boed yn fawr neu'n fach, mae'r gwobrau'n ffordd wych o'ch cydnabod a'ch arddangos chi, eich tîm, a'ch gwaith caled.


Categorïau newydd ar gyfer 2024!

Mae Gwobrau GIG Cymru 2024 yn cynnwys 12 categori newydd sbon, sy’n cyd-fynd â’r Ddyletswydd Ansawdd a Safonau Ansawdd Iechyd a Gofal 2023.

Ymhlith y categorïau newydd mae Gwobr y Gweinidog am Ragoriaeth mewn Gwelliant ac Ansawdd, a ddewiswyd o blith y 12 enillydd a gwobr y pleidleisiwyd amdani gan gymheiriaid o fewn GIG Cymru.

  1. Gwobr Gofal Diogel GIG Cymru
  2. Gwobr Gofal Amserol GIG Cymru
  3. Gwobr Gofal Effeithiol GIG Cymru
  4. Gwobr Gofal Effeithlon GIG Cymru
  5. Gwobr Gofal Teg GIG Cymru
  6. Gwobr Gofal sy’n Canolbwyntio ar yr Unigolyn GIG Cymru (Bydd yr enillydd yn cael ei ddewis o restr fer y beirniaid a bydd cymheiriaid yn GIG Cymru yn pleidleisio drosto). 
  7. Gwobr Arweinyddiaeth GIG Cymru
  8. Gwobr Cynaliadwyedd Gweithlu GIG Cymru
  9. Gwobr Diwylliant Tîm GIG Cymru
  10. Gwobr Gwybodaeth GIG Cymru
  11. Gwobr Dysgu ac Ymchwil GIG Cymru
  12. Gwobr Dull Systemau Cyfan GIG Cymru
  1. Gwobr y Gweinidog am Ragoriaeth mewn Gwelliant ac Ansawdd (Bydd yr enillydd yn cael ei ddewis o blith enillwyr y deuddeg categori). 

Gwnewch gais heddiw ac fe allech chi fod yn enillydd…!

Cyn i chi ddechrau'r broses gyflwyno, darllenwch y Canllaw Cystadlu sy'n cynnwys gwybodaeth hanfodol i gefnogi'ch cais.

Mae cofrestru yn syml, ewch i'r platfform gwneud cais am wobrau i gwblhau eich cyflwyniad. Cofiwch ofyn i'ch Cyfarwyddwr Gweithredol am yr awdurdodiad priodol cyn cyflwyno cais. 

 

Bydd ceisiadau’n cau am 5:00pm, dydd Gwener 3 Mai 2024 abydd pawb sy’n cyrraedd y rownd derfynol yn cael eu hysbysu ddiwedd mis Mai.

Winners will be announced later this year at the NHS Wales Awards 2024 ceremony.