Neidio i'r prif gynnwy

Mae adroddiad cam darganfod y Rhaglen Cefnogi Diogelwch mewn Gofal Mamolaeth a Newyddenedigol yn gosod y sylfeini ar gyfer newid sylfaenol

Mae’r gymuned famolaeth a newyddenedigol yng Nghymru wedi amlinellu’r llwybr i wella ansawdd y gofal i famau a babanod drwy gydol taith bywyd newydd.

Mae tîm o arweinwyr a hyrwyddwyr y Rhaglen Cefnogi Diogelwch mewn Gofal Mamolaeth a  Newyddenedigol, sydd wedi’u hymgorffori ym mhob bwrdd iechyd ac Ymddiriedolaeth Gwasanaethau Ambiwlans Cymru, wedi cydweithio ar yr adroddiad ar gais Llywodraeth Cymru.

Drwy ystyried gofal mamolaeth a newyddenedigol mewn dull integredig, ochr yn ochr â gofal cyn mynd i’r ysbyty, mae’r adroddiad yn gosod y sylfeini ar gyfer newid sylfaenol yn y ffordd yr ydym yn edrych ar ofal ac yn ei ddarparu ledled Cymru.

Nid adolygiad o wasanaethau oedd y gwaith hwn, ond trwy gyfarfod a chyfathrebu â thimau mamolaeth a newyddenedigol, mae tîm y Rhaglen Cefnogi Diogelwch mewn Gofal Mamolaeth a Newyddenedigol wedi nodi rhai cyfleoedd i wella gofal a llywodraethu.

Mae’r adroddiad wedi’i greu gan y gymuned mamolaeth a newyddenedigol yng Nghymru ar gyfer y gymuned  mamolaeth a newyddenedigol yng Nghymru.

Cefnogodd Gwelliant Cymru greu’r adroddiad hwn drwy ddarparu arbenigedd mewn gwella gofal iechyd yng Nghymru.  Roedd hyn yn cynnwys cynghori a hyfforddi'r arweinwyr a'r hyrwyddwyr ar yr offer a'r fframwaith diagnostig mwyaf priodol ar gyfer eu gwaith darganfod.

Mae gwelliannau eisoes ar y gweill diolch i'r gwaith y mae'r cyfnod darganfod hwn wedi'i danio.

Dywedodd John Boulton, Cyfarwyddwr Gwelliant Cymru: “Mae adroddiad cam darganfod y Rhaglen Cefnogi Diogelwch mewn Gofal Mamolaeth a Newyddenedigol yn gam sylweddol ymlaen ar gyfer gofal mamolaeth a newyddenedigol yng Nghymru.  Mae’n amlinellu’n glir y llwybr i wella ansawdd gofal i famau a babanod drwy gydol taith bywyd newydd yma yng Nghymru.

“Mae’r angerdd drwy’r gweithlu mamolaeth a newyddenedigol i’w weld yn glir ledled Cymru, fe wnaethom ddarganfod ymgyrch wirioneddol i ddarparu’r gofal gorau posibl i bobl Cymru.

“Mae tîm y Rhaglen Cefnogi Diogelwch mewn Gofal Mamolaeth a Newyddenedigol wedi bod wrthi’n galluogi gweithgareddau gwella newydd, tra hefyd yn adnodd gwerthfawr i gefnogi sefydliadau gyda’u prosiectau gwella presennol.”

Cefnogodd Gwelliant Cymru greu’r adroddiad hwn drwy ddarparu arbenigedd mewn gwella gofal iechyd yng Nghymru.  Roedd hyn yn cynnwys cynghori a hyfforddi'r arweinwyr a'r hyrwyddwyr ar yr offer a'r fframwaith diagnostig mwyaf priodol ar gyfer eu gwaith darganfod.