Neidio i'r prif gynnwy

Y Rhaglen Cefnogi Diogelwch mewn Gofal Mamolaeth a Newyddenedigol yng Nghymru

 
Mae tîm o arweinwyr a hyrwyddwyr y Rhaglen Cefnogi Diogelwch mewn Gofal Mamolaeth a Newyddenedigol, sydd wedi’u hymgorffori ym mhob bwrdd iechyd ac Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Ambiwlans Cymru, wedi cydweithio ar adroddiad cam darganfod ar gais Llywodraeth Cymru.

Crynodeb Gweithrefol (PDF, 71KB)

Cynhaliwyd cam darganfod y gwaith rhwng mis Rhagfyr 2022 a Chwefror 2023. Mae’r adroddiad yn archwilio tirwedd gwasanaethau mamolaeth a newyddenedigol yng Nghymru, gan gynnwys safbwyntiau manwl am ddiwylliant gwaith, arweinyddiaeth a dysgu ochr yn ochr â’r gweithlu a mesurau canlyniadau clinigol ar gyfer mamau a babanod ledled y wlad.  

Drwy ystyried gofal mamolaeth a newyddenedigol mewn dull integredig, ochr yn ochr â gofal cyn mynd i’r ysbyty, mae adroddiad cam darganfod y Rhaglen Cefnogi Diogelwch mewn Gofal Mamolaeth a Newyddenedigol yn gosod y sylfeini ar gyfer newid sylfaenol o ran y ffordd yr ydym yn edrych ar ofal ac yn ei ddarparu ledled Cymru. 

Mae’r adroddiad wedi’i greu gan y gymuned mamolaeth a newyddenedigol yng Nghymru ar gyfer y gymuned mamolaeth a newyddenedigol yng Nghymru.  

Cefnogodd Gwelliant Cymru greu’r adroddiad hwn drwy ddarparu arbenigedd mewn gwella gofal iechyd yng Nghymru.  Roedd hyn yn cynnwys cynghori a hyfforddi'r arweinwyr a'r hyrwyddwyr ar yr offer a'r fframwaith diagnostig mwyaf priodol ar gyfer eu gwaith darganfod. 


Arweinwyr Clinigol a Chenedlaethol Mamolaeth a Newyddenedigol

Fel rhan o Dîm y Rhaglen Cefnogi Diogelwch mewn Gofal Mamolaeth a Newyddenedigol, mae ein Harweinwyr Clinigol a Chenedlaethol, ynghyd â hyrwyddwyr lleol sydd wedi’u sefydlu ym mhob bwrdd iechyd ac Ymddiriedolaeth Gwasanaethau Ambiwlans Cymru, yn cefnogi prosiectau gwella i ddarparu gofal ar gyfer gwasanaethau mamolaeth a newyddenedigol ledled Cymru.