Neidio i'r prif gynnwy

Cyhoeddi enillwyr Gwobrau GIG Cymru 2023!

Rydym yn gyffrous i gyhoeddi enillwyr Gwobrau GIG Cymru, eleni i ddathlu gwaith gwella sydd wedi trawsnewid profiad a chanlyniadau i bobl yng Nghymru.

Eleni roeddem wrth ein bodd i dderbyn y nifer mwyaf erioed o gyflwyniadau yn manylu ar y gwaith gwella anhygoel sy'n digwydd ar draws ein system iechyd a gofal. Ar ôl llawer o drafod, dewiswyd pedwar ar hugain o brosiectau i gyrraedd y rownd derfynol a chyhoeddwyd ein henillwyr mewn seremoni ar-lein yn gynharach heddiw.

Ein henillwyr: 

 

Rydym yn dathlu pymthegfed flwyddyn y gwobrau, a gynhelir gan Gwelliant Cymru. Dywedodd yr Athro John Boulton, Cyfarwyddwr Cenedlaethol Gwella Ansawdd a Diogelwch Cleifion y GIG/Cyfarwyddwr Gwelliant Cymru: “Mae’r gwobrau’n gyfle gwych i ledaenu a graddio gwaith gwych ledled Cymru a thu hwnt. Rydym yn hynod lwcus o gael gweithlu mor angerddol a medrus, ac rwyf wedi fy ysbrydoli gennych i gyd. Diolch i chi am yr hyn rydych chi'n ei wneud a sut rydych chi'n ei wneud. Mae'n gyflawniad rhagorol y dylech fod yn falch ohono.”

Dywedodd Judith Paget, Cyfarwyddwr Cyffredinol Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a Phrif Weithredwr GIG Cymru: “Rwy’n llawn balchder yn dathlu Gwobrau GIG Cymru a chlywed gan gynifer o dimau ymroddedig sydd â phrosiectau gwirioneddol arloesol.

“Hoffwn ddiolch i bob un o’n cystadleuwyr ysbrydoledig a llongyfarch yr enillwyr o waelod calon. Rydym yn gwerthfawrogi eich gwaith gwella rhagorol yn fwy nag erioed, ar adeg pan fo’n rhaid gwneud penderfyniadau anodd er mwyn blaenoriaethu gofal cleifion.

“Mae’n bwysig cymryd yr amser i arddangos yr hyn yr ydych wedi bod yn gweithio mor galed arno fel y gallwn ddathlu eich cyflawniadau a hefyd dysgu oddi wrth ein gilydd. Edrychaf ymlaen at weld sut y bydd eich gwaith yn datblygu fel y gallwn helpu i drawsnewid iechyd a gofal hyd yn oed ymhellach”.

Diolch yn arbennig i'n noddwyr SimplyDo ac Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru am eu cefnogaeth sydd wedi caniatáu i ni barhau â'n dathliad rhithwir.

Darllenwch fwy am yr holl enillwyr a’r prosiectau sydd wedi ennill gwobrau