Neidio i'r prif gynnwy

Dathlwch ragoriaeth mewn iechyd a gofal ledled Cymru trwy gynnig am Wobrau GIG Cymru 2020!

A ydych chi wedi cyflawni newid sydd wedi trawsnewid y profiad a’r canlyniadau i bobl Cymru? Mae’r Gwobrau’n gyfle i chi arddangos eich gwaith. 

Cynigiwch amdanynt heddiw.

Gall eich syniadau chi ar gyfer newid wneud gwahaniaeth i bobl yn eich gofal, i’ch sefydliad ac i’r system iechyd a gofal yn ei chyfanrwydd. Trwy gynnig am y Gwobrau, gallwch godi proffil eich gwaith a bod yn rhan o fudiad cenedlaethol sy’n rhannu dysgu ledled Cymru. Mae’r cynigion ar gyfer y Gwobrau wedi mynd o nerth i nerth dros y 13 blynedd diwethaf a gwyddom y bydd eleni, eto, yn parhau i ysbrydoli.

Mae’r Gwobrau ar agor i holl staff GIG Cymru, gan gynnwys myfyrwyr.  Dyma’r wyth categori:

  1. Cyflwyno Iechyd a Gofal Gwerth Uwch
  2. Cyflwyno Gwasanaethau sy’n Canolbwyntio ar yr Unigolyn
  3. Grymuso Pobl i Gyd-gynhyrchu Eu Gofal
  4. Cyfoethogi Lles, Gallu ac Ymgysylltiad y Gweithlu Iechyd a Gofal
  5. Gwella Iechyd a Lles
  6. Gwella Diogelwch Cleifion
  7. Darparu Gwasanaethau mewn Partneriaeth ledled GIG Cymru
  8. Gweithio’n Ddi-dor ar draws y Sector Cyhoeddus a’r Trydydd Sector

 

Hefyd, cyflwynir gwobr y Cyfraniad Eithriadol at Drawsnewid Iechyd a Gofal i enillydd cyffredinol o’r wyth categori.

Meddai Dr Andrew Goodall CBE, Cyfarwyddwr Cyffredinol Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a Phrif Weithredwr GIG Cymru: Mae’r Gwobrau’n gyfle i ddathlu doniau, ymroddiad a dyfeisgarwch staff sy’n ymdrechu i wella’r deilliannau i bobl sy’n defnyddio gwasanaethau yng Nghymru.

“Byddwn yn annog pawb sy’n gweithio yn y GIG i fanteisio ar y cyfle hwn i rannu’u gwaith caled a’u llwyddiant trwy gynnig am Wobrau GIG Cymru 2020.”

Os cewch eich dewis ar gyfer y rownd derfynol, bydd ein beirniaid yn ymweld â chi i ddysgu rhagor a chewch wahoddiad i’r Seremoni Wobrwyo fawreddog. Pwy ŵyr....efallai mai chi fydd un o’r enillwyr!

Fel enillydd, cewch gynnig cymorth parhaus gan dîm y Gwobrau a bydd gennych lwyfan i rannu’ch gwaith yn lleol, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol, fel y gallwn helpu i drawsnewid iechyd a gofal.

Cyflwynwch gynnig heddiw

Mae’n hawdd cynnig am y gwobrau; dilynwch y pum cam syml canlynol:

  • Darllenwch y Canllaw Gwybodaeth i Awduron
  • Dewis y categori sy’n addas i’ch gwaith chi;
  • Lawrlwythwch y ffurflen gynnig a’i llenwi;
  • Gofynnwch am gymeradwyaeth Cyfarwyddwr Gweithredol;
  • Cyflwynwch eich cynnig cyn y dyddiad cau: 5.00pm 27 Ebrill 2020.

Os oes gennych unrhyw ymholiadau, cysylltwch â Terri Willis ar Terri.Willis@wales.nhs.uk neu 02920 104371.