Neidio i'r prif gynnwy

Gall gwella'r iaith gofal iechyd a ddefnyddir ar gyfer pobl â dementia ddarparu gwell gofal sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn

Mae ymchwil gan Brifysgol Bangor a Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro wedi canfod y gall gwella’r iaith a ddefnyddir mewn nodiadau achos ysgrifenedig arwain at well gofal i bobl sy’n byw gyda dementia.

Arweiniodd Dr Ian Davies-Abbott o Brifysgol Bangor brosiect i ddeall yn well sut mae iaith a ddefnyddir mewn lleoliadau gofal iechyd yn effeithio ar ddarpariaeth gofal sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn i bobl sy’n byw gyda dementia.

Gan weithio ar y cyd â Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro, defnyddiodd y tîm fapio gofal dementia i rymuso pobl sy’n byw gyda dementia, eu teuluoedd a/neu ofalwyr, a staff gofal iechyd i rannu eu canfyddiadau o iaith gadarnhaol.

Mae’r prosiect ymchwil hwn yn ategu gwaith ehangach Gwelliant Cymru a Llywodraeth Cymru, a Siarter Ysbytai sy’n Deall Dementia Cymru.

Bydd y canfyddiadau yn cael eu defnyddio i lywio datblygiad a gweithrediad offeryn iaith sy'n 'deall dementia'.

Dywedodd Ian Dr Davies-Abbott, Darlithydd mewn Gwyddorau Gofal Iechyd (Nyrsio Iechyd Meddwl) ym Mhrifysgol Bangor: “Canfu ein hymchwil fod modd gwella iaith nodiadau achos am bobl sy’n byw gyda dementia trwy ganllawiau clir a syml.

“Mae’r canlyniadau’n awgrymu y gallai gwell iaith ysgrifenedig hefyd arwain at ddarparu gofal gwell sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn.

“Bydd yr ymchwil hwn yn cael ei ddefnyddio i greu canllawiau iaith hawdd eu defnyddio am bobl sy’n byw gyda dementia y gellir eu defnyddio mewn unrhyw leoliad iechyd neu ofal cymdeithasol.”

Dadansoddodd y tîm gofnodion nodiadau achos ac arsylwadau o ymarfer ar draws tair ward iechyd meddwl, sy'n arbenigo mewn gofalu am bobl sy'n byw gyda dementia, ar draws tri phwynt casglu data dros ddeg mis. Rhoddwyd canllawiau iaith nodiadau achos i staff i weld a oedd hyn yn dylanwadu ar y ffordd yr oeddent yn ysgrifennu am bobl sy'n byw gyda dementia. Edrychodd yr ymchwilwyr ar yr holl ganlyniadau i weld a oedd cysylltiad rhwng yr hyn a ysgrifennwyd yn y nodiadau achos a darparu gofal sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn.

Dywedodd Dr Mark Griffiths, Arweinydd Arloesi Gwelliant Cymru: “Mae’r ymchwil arloesol hon yn dangos sut y gall pobl sy'n byw gyda dementia a'u teuluoedd dderbyn gofal gwell.

“Mae darparu gofal sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn drwy iaith sy’n hawdd ei defnyddio yn cefnogi’r gwaith rydym yn ei wneud yn Gwelliant Cymru i wneud Cymru’n wlad sy’n deall dementia drwy Lwybr Safonau Gofal Dementia Cymru.”

Mae’r ymchwil yn un o bâr o brosiectau ymchwil a ariannwyd gan Gwelliant Cymru ym mis Mehefin 2022, sydd â’r nod o gyflwyno gwelliannau ac arloesi ym maes iechyd a gofal.

Dyfarnwyd y cyllid yn unol â’r blaenoriaethau yn strategaeth ‘Gwella Ansawdd a Diogelwch’ Gwelliant Cymru, sy’n ceisio cefnogi’r gwaith o greu system iechyd a gofal o’r ansawdd gorau i Gymru fel bod gan bawb fynediad at ofal diogel, effeithiol a dibynadwy yn y lle iawn ac ar yr adeg iawn ar draws y system ofal gyfan.