Neidio i'r prif gynnwy

Dau brosiect ymchwil newydd yn cefnogi datblygiadau arloesol ym maes darparu gofal

Yn dilyn cais am gynigion ymchwil yn gynharach eleni, mae cyfarwyddiaeth Gwelliant Cymru, Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi dyfarnu cyllid i gefnogi dau brosiect ymchwil sydd â’r potensial i gyflawni gwelliannau ac arloesi ym maes darparu iechyd a gofal.

Mae'r ddau brosiect yn cyd-fynd â'r blaenoriaethau strategol a amlinellir yn ein strategaeth newydd 'Gwella Ansawdd a Diogelwch' (lansiwyd ym mis Medi 2021) a byddant yn ein helpu i sicrhau bod gan bawb fynediad at ofal diogel, effeithiol ac effeithlon yn y lle iawn ac ar yr adeg iawn.


Mae iaith yn creu realiti

Mae Dr Ian Davies-Abbott ym Mhrifysgol Bangor yn brif ymchwilydd ar brosiect sydd wedi’i gynllunio i wella ein dealltwriaeth o sut mae iaith a ddefnyddir mewn lleoliadau gofal iechyd yn effeithio ar ddarpariaeth gofal sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn i bobl sy’n byw gyda dementia.

Credir y gall cofnodion malaen neu negyddol yn nodiadau achos pobl sy'n byw gyda dementia stigmateiddio cleifion ac effeithio ar y ffordd y cânt eu trin yn ystod ymyriadau gofal.

Gan weithio ar y cyd ag Ysbyty Athrofaol Llandochau, bydd y prosiect ymchwil hwn yn defnyddio mapio gofal dementia i rymuso pobl sy’n byw gyda dementia, aelodau o’u teuluoedd a/neu ofalwyr, a staff gofal iechyd i rannu eu canfyddiadau o iaith gadarnhaol. Bydd y tîm yn defnyddio'r canfyddiadau i lywio datblygiad a gweithrediad offeryn iaith sy'n 'deall dementia'.

Dywedodd Dr Davies-Abbott, Darlithydd mewn Gwyddorau Gofal Iechyd (Nyrsio Iechyd Meddwl) ym Mhrifysgol Bangor: “Er bod pwysigrwydd defnyddio iaith sy’n deall dementia wedi’i drafod ers sawl blwyddyn, mae’r astudiaeth hon yn cyflwyno cyfle newydd i ddeall a yw iaith ysgrifenedig yn effeithio ar ofal ymarferol pobl sy’n byw gyda dementia. Bydd yr astudiaeth hefyd yn ceisio datblygu dewisiadau iaith ysgrifenedig amgen i hyrwyddo ysgrifennu nodiadau achos cadarnhaol”.

Mae’r prosiect ymchwil hwn yn ategu gwaith ehangach Gwelliant Cymru a Llywodraeth Cymru, a Siarter Ysbytai sy’n Deall Dementia Cymru a lansiwyd yn ddiweddar.


Ymyriadau digidol yn ystod y cyfnod amenedigol

Mae’r Gwasanaeth Iechyd Meddwl Cymunedol Amenedigol, dan arweiniad Dr Cerith Waters yn Ysbyty Brenhinol Caerdydd, yn ymchwilio i sut y gall merched a phobl sy’n geni sy’n profi anawsterau iechyd meddwl yn ystod y cyfnod amenedigol gael gwell mynediad at ymyriadau digidol.

Roedd merched a phobl oedd yn geni yn y cyfnod amenedigol yn wynebu heriau unigryw yn ystod pandemig COVID-19. Roeddent yn wynebu mwy o unigedd, llai o apwyntiadau cyn-enedigol ac ôl-enedigol wyneb yn wyneb, cyfyngiadau ar sut a phryd y gallai partneriaid a gofalwyr eu cefnogi, a llai o gymorth i'w helpu i ofalu am eu babanod newydd. O ganlyniad, mae canlyniadau iechyd meddwl merched a phobl sy’n geni amenedigol sydd ag iselder a gorbryder wedi gwaethygu ers y pandemig.

Mewn ymateb, addasodd y Gwasanaeth Iechyd Meddwl Cymunedol Amenedigol ei ymyriadau therapiwtig i'w darparu ar-lein. Er bod llawer o ferched a phobl a oedd yn geni wedi defnyddio’r gwasanaethau digidol hyn ac wedi elwa arnynt, gwrthododd hyd at 30% o ferched driniaeth neu rhoddodd y gorau i’r driniaeth cyn cwblhau’r ymyriad.

Nod y prosiect ymchwil hwn yw datblygu gwell dealltwriaeth o pam nad yw rhai pobl yn ymgysylltu neu'n dadymgysylltu ag ymyriadau seicolegol a ddarperir yn ddigidol, ac o ganlyniad sut y gellir gwella'r gwasanaeth i ennyn mwy o ymgysylltiad. 

Dywedodd Dr Waters, Seicolegydd Arweiniol Clinigol ar gyfer Gwasanaethau Iechyd Meddwl Amenedigol ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro ac Uwch Ddarlithydd ym Mhrifysgol Caerdydd: “Rydym yn awyddus i adeiladu ar y datblygiadau digidol arloesol a ddatblygwyd gennym mewn ymateb i bandemig COVID-19 a gwella ymhellach ganlyniadau iechyd meddwl pobl yn y cyfnod amenedigol a’u babanod”.

Mae’r ddau brosiect yn ategu gwaith ehangach Gwelliant Cymru a’r rhaglen Gofal Diogel Gyda’n Gilydd a amlinellir yn ein strategaeth. Mae'r rhaglen hon yn cynnig cymorth pwrpasol i sefydliadau nodi a gwella blaenoriaethau ansawdd a diogelwch. Mae Gwelliant Cymru yn falch o allu cefnogi’r ddau brosiect ymchwil arloesol hyn, ac edrychwn ymlaen at ymgysylltu â nhw wrth iddynt flaenoriaethu ansawdd gofal a diogelwch yn eu dau leoliad.