Neidio i'r prif gynnwy

Datganiad ar seremoni Gwobrau GIG Cymru 2023

Yn dilyn y datganiad gan Eluned Morgan AS, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol am statws uwchgyfeirio holl Fyrddau Iechyd GIG Cymru, mae Llywodraeth Cymru wedi gorfod gwneud y penderfyniad anodd gyda Gwelliant Cymru i symud seremoni Gwobrau GIG Cymru eleni o fod yn ddigwyddiad wyneb yn wyneb i fod yn ddigwyddiad rhithwir ar-lein. Er ein bod ni’n gwybod y bydd hyn yn siomedig i’n timau ysbrydoledig sydd wedi cyrraedd y rhestr fer, nid ar chwarae bach y cafodd y penderfyniad ei wneud ac mae’n adlewyrchu sefyllfa ariannol hynod o anodd y GIG yng Nghymru ar hyn o bryd. Bydd symud i ddigwyddiad dathlu rhithwir yn helpu ein Byrddau Iechyd a’n Hymddiriedolaethau yn eu hymdrechion i arbed costau, tra’n parhau i ganolbwyntio ar ddiolch a chydnabod ein cydweithwyr gwych yn y GIG.

Dywedodd Judith Paget, Cyfarwyddwr Cyffredinol Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a Phrif Weithredwr GIG Cymru: “Dyw’r penderfyniad i symud y seremoni wobrwyo ar-lein ddim yn tynnu oddi ar y gwaith gwych rydyn ni’n gwybod y mae cydweithwyr yn ei wneud bob dydd yn GIG Cymru mewn unrhyw ffordd.  Rydyn ni’n gwerthfawrogi ein staff ysbrydoledig yn fwy nag erioed ar adeg pan mae'n rhaid gwneud penderfyniadau anodd er mwyn blaenoriaethu gofal cleifion. Hoffwn ddiolch i'r rhai a gyrhaeddodd rownd derfynol Gwobrau GIG Cymru ac i'r rhai ohonoch a gymerodd yr amser i gymryd rhan. Rwy'n edrych ymlaen at ddathlu gyda chi, er mewn seremoni wahanol ar gyfer 2023."

Roedd y seremoni wobrwyo i fod i gael ei chynnal yng ngwesty'r Coal Exchange, Caerdydd ym mis Hydref. Ar hyn o bryd rydyn ni’n datblygu cynlluniau i gyflwyno'r gwobrau yn rhithiol a byddwn yn cysylltu â mynychwyr cyn hir. Rydyn ni’n edrych ymlaen at gyhoeddi'r enillwyr ac at ddathlu gwaith gwirioneddol ysbrydoledig.

Darllenwch ragor am ein cystadleuwyr sydd wedi cyrraedd y rhestr fer yma.