Neidio i'r prif gynnwy

Prosiect gwella Clinig Angelton i leihau cwympiadau cleifion mewnol: stori lwyddiant gydweithredol

Mae'r tîm yng Nghlinig Angelton Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg wedi bod yn defnyddio technegau gwella i leihau cwympiadau cleifion mewnol fel rhan o'r Gydweithredfa Gofal Diogel.

Yn dilyn cynnydd mewn cwympiadau cleifion mewnol yn eu huned iechyd meddwl i bobl hŷn, dechreuodd Clinig Angelton brosiect gwella y llynedd i nodi'r ffactorau sy'n cyfrannu at gwympiadau a'u rheoli'n rhagweithiol i wella diogelwch a lleihau nifer y cwympiadau.

Enwebodd Tîm Gwella Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf y prosiect i fod yn rhan o’r Gydweithredfa Gofal Diogel, a fyddai’n golygu y byddent yn cael cymorth ychwanegol gan Gwelliant Cymru a’r Sefydliad Gwella Gofal Iechyd (IHI), a byddent yn rhannu eu profiadau â chydweithwyr eraill ledled Cymru sy’n gweithio ar eu prosiectau gwella eu hunain.

Canfu’r tîm fod bod yn rhan o’r Gydweithredfa Gofal Diogel wedi helpu’r prosiect i ennill momentwm, a dychwelodd y staff a aeth i'r sesiynau dysgu yn teimlo’n angerddol am yr hyn y gallent ei wneud i ddatblygu’r prosiect. 

Y tîm yn cyflwyno’r prosiect i aelodau’r Cydweithredfa Gofal Diogel yn Sesiwn Dysgu 3. Y tîm yn cyflwyno’r prosiect i aelodau’r Cydweithredfa Gofal Diogel yn Sesiwn Dysgu 3.

Un o'r prif resymau dros lwyddiant y prosiect hwn yw ei fod yn cynnwys tîm eang, amlddisgyblaethol, yn cynnwys, er enghraifft, staff nyrsio, uwch-ymarferydd nyrsio a thimau ffisiotherapi, therapi galwedigaethol a seicoleg pwrpasol.  Mae'r dyfnder hwn i'r tîm wedi cynyddu ymgysylltiad a ffocws ar y prosiect.  Mae pob un o aelodau'r tîm wedi dod â maes arbenigedd gwahanol gyda nhw ac mae pob un o'u dulliau unigol wedi bod o fudd i'r cleifion mewn amrywiaeth ehangach o ffyrdd.

Rhan allweddol o'r ymgysylltu oedd sicrhau bod y staff yn deall yr hyn yr oeddent yn ei wneud a'r hyn yr oeddent am ei wella.  Yn y pen draw, mae pob aelod o’r tîm ar bob lefel yn teimlo’n angerddol dros ddiogelwch cleifion; maent am sicrhau’r canlyniadau gorau i gleifion.  Dywedodd y tîm fod gweithio ar y prosiect hwn gyda'i gilydd wedi eu gwneud yn ymwybodol bod angen tîm ehangach i gymryd rhan ynddo er mwyn gwneud newid sylweddol.

Fel rhan o'u gwaith, a gyda chymorth a chefnogaeth gan Dîm Gwella Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf, defnyddiodd tîm Clinig Angelton offer fel diagramau asgwrn pysgodyn a diagramau gyrrwr i ddarganfod achosion y cwympiadau. Fe wnaethant hefyd fapio’r cwympiadau ar y ward i nodi mannau problemus a thueddiadau.

Roedd y tîm yn wynebu heriau wrth geisio cael y data, yn enwedig ar gyfer achosion cymhleth. Canfuwyd bod angen data cyfoethog i ddeall y tueddiadau, yr amseru, a’r rhesymau dros y cwympiadau, ac felly dechreuon nhw edrych ar sut y gallent wella sut maent yn casglu data.  Maent yn datblygu mapio mannau problemus o'r ward ac yn defnyddio codau i gofnodi pwyntiau penodol ar y ward lle mae pobl yn cwympo.  Y gobaith yw y bydd yr wybodaeth hon yn gallu cael ei hychwanegu at Datix, sef System Gwybodaeth Rheoli Risg, a fydd yn helpu'r tîm i ddeall yn well y rhesymau dros y cwympiadau.

Canfu eu hastudiaethau fod risgiau mawr yn cynnwys rheoli meddyginiaeth a'r amgylchedd.  Er enghraifft, canfuwyd bod mwy o gwympiadau yn digwydd ar yr adegau pan oedd y staff nyrsio yn dechrau ac yn gorffen eu sifftiau. Roedd rhai meddyginiaethau, fel y rhai a oedd yn cynnwys cyffuriau hypnotig, yn cynyddu'r risg o gwympo.  Ategwyd eu canfyddiadau hefyd gan Archwiliad Cenedlaethol Cwympiadau Cleifion Mewnol Coleg Brenhinol y Meddygon sy'n argymell mesur pwysedd gwaed cleifion sydd mewn perygl o gwympo wrth iddynt fod ar eu heistedd ac wrth iddynt sefyll.

Cychwynnodd y tîm gylchoedd PDSA i brofi newidiadau, a oedd yn cynnwys darparu pecynnau addysgol ar gyfer staff perthnasol ar bynciau fel gorbwysedd orthostatig.

Buont hefyd yn archwilio newidiadau amgylcheddol, ac yn gweithio gyda’r cleifion a’u teuluoedd i ystyried pa fath o ddodrefn a lloriau a fyddai'n creu amgylchedd mwy diogel iddynt, yn hytrach na defnyddio’r un dodrefn i bawb.

Roedd Ana Llewellyn, Uwch Nyrs ac Uwch Berchennog Cyfrifol (SRO) y prosiect, yn cydnabod ymroddiad y tîm a llwyddiant y gwaith tîm amlddisgyblaethol ac felly yn cefnogi lledaenu’r gwaith i dimau eraill ar draws y bwrdd iechyd, gan gynnwys yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg ac Ysbyty Cwm Cynon.

Mae Greg Dix, Cyfarwyddwr Gweithredol Nyrsio a Dirprwy Gyfarwyddwr Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg, wedi bod yn ymwneud yn agos â gwaith Cydweithredfa Gofal Diogel y bwrdd iechyd. Meddai, “Allwn i ddim bod yn fwy balch o ymroddiad a chynnydd y tîm o ran lleihau cwympiadau. Mae eu gwaith wedi gwneud gwahaniaeth cadarnhaol yma ac mae hefyd yn cael ei ledaenu i dimau eraill. Mae ganddo'r potensial i gael ei ymestyn i fyrddau iechyd ledled Cymru."

Dywedodd Dominique Bird, Dirprwy Gyfarwyddwr Gwelliant Cymru, “Mae gwaith cydweithredol Clinig Angelton i leihau cwympiadau cleifion mewnol yn enghraifft o bŵer trawsnewidiol gwaith tîm amlddisgyblaethol.  Mae eu llwyddiant wrth nodi a mynd i’r afael â’r achosion sylfaenol, ynghyd â’u hymrwymiad i welliant parhaus, yn gosod safon glodwiw ar gyfer gwella diogelwch cleifion.”

Mae'r tîm yn awyddus i barhau i helpu eu cleifion gyda'r gwaith hwn a gwella ac esblygu'n barhaus.  Wrth symud ymlaen, maent yn gobeithio cynnwys cleifion a theuluoedd yn fwy wrth gasglu data a chyd-gynhyrchu’r gwaith. Eu nod yw creu straeon cleifion a chasglu safbwyntiau gwahanol i gyfoethogi'r ddealltwriaeth o gwympiadau.  Maent yn dadansoddi mwy o ddata ac yn gweithio tuag at fesur effaith y prosiect ar well boddhad mewn swydd a gwell amodau gwaith yn gyffredinol.

Megis dechrau mae’r prosiect ac mae'r tîm yn gobeithio y byddant yn gallu gwneud mwy fyth o newidiadau cadarnhaol yn y tymor hir.  Os oes gennych ddiddordeb mewn darganfod mwy, cysylltwch â Ros Davies Rosalyn.Davies2@wales.nhs.uk arweinydd Ffrwd Gwaith Cymunedol y Gydweithredfa Gofal Diogel.