Mae rownd nesaf Cyfnewidfa Q, y rhaglen ariannu gyfranogol â grantiau o hyd at £40,000 bellach ar agor ar gyfer derbyn cyflwyniadau.
Mae Cyfnewidfa Q yn rhaglen ariannu gydweithredol, a gefnogir gan y Sefydliad Iechyd a GIG Lloegr. Mae’n cynnig cyfle i aelodau Q o bob rhan o’r DU ddatblygu a chyflwyno eu syniadau arloesol. Mae'n rhaid i dimau prosiect gael eu harwain gan aelod Q drwy gydol y prosiect ond gallant gynnwys pobl nad ydynt eto'n rhan o'r gymuned.
Mae thema eleni yn canolbwyntio ar sut y gallwn wella ar draws ffiniau systemau. Dylai prosiectau ymwneud ag un neu fwy o’r meysydd canlynol:
Mae hwn yn gyfle anhygoel i aelodau Q sydd wedi’u lleoli yng Nghymru gydweithio a rhannu eu sgiliau gyda Chymuned Q ehangach i ddatblygu a phrofi syniadau arloesol newydd neu rai sydd eisoes yn bodoli. Yn aml bydd prosiectau llwyddiannus yn darparu ysbrydoliaeth a dysgu y gellir eu defnyddio i ledaenu ac ehangu gwelliannau.
Y llynedd, llwyddodd prosiect a ddatblygwyd gan gydweithwyr o Gwelliant Cymru a Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg, sef 'Dull o Gyd-gynhyrchu tuag at 'Aros cystal â Phosibl' i dderbyn cyllid drwy Gyfnewidfa Q. Gallwch weld yr wybodaeth ddiweddaraf ar y prosiect hwn yma.
Os hoffech drafod eich syniad, cysylltwch â thîm Cyfnewidfa Q: Qexchange@health.org.uk.