Neidio i'r prif gynnwy

Ffyrdd o Fyw Iach yn y Gwaith

Mae pobl mewn cyflogaeth yn treulio cyfran fawr o'u horiau effro yn y gwaith. Yng Nghymru, mae tua 72% o bobl o oedran gweithio, neu bron 1.5 miliwn, mewn gwaith. Mae hyn yn gwneud y gweithle yn lle effeithiol i hyrwyddo ac annog ffyrdd iach o fyw a chefnogi iechyd a llesiant gweithwyr.

Drwy wneud hyn, gall cyflogwr da fuddsoddi yn iechyd ei weithlu ac annog ymddygiad iach, gan gyfrannu at iechyd da’r boblogaeth gyfan.  Yn ogystal, gall y cyflogwr nid yn unig elwa ar weithlu iachach, ond hefyd gall ddod yn adnabyddus am fod yn lle gwych i weithio.

Mae'r adran hon yn ymdrin ag ystod o bynciau pwysig sy’n ymwneud â ffordd iach o fyw, ac mae’n rhoi cyngor a chanllawiau ynghylch sut y gall cyflogwyr hyrwyddo ymddygiad iach ymhlith eu holl staff.