Neidio i'r prif gynnwy

Ysmygu a Thybaco

Smygu yw'r ffactor risg sy'n cyfrannu fwyaf at faich clefydau presennol Cymru. Mae'n achosi tua 5,450 o farwolaethau bob blwyddyn yng Nghymru, ac yn costio £302 miliwn i'r GIG bob blwyddyn, yn ôl yr amcangyfrifon. Smygu hefyd yw un o brif achosion anghydraddoldebau iechyd o hyd, ac mae cyfraddau smygu yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig dros ddwbl yr hyn a welir yn yr ardaloedd lleiaf difreintiedig.

Ref: Public Health Wales Observatory (2012) Tobacco and health in Wales. Cardiff: Public Health Wales

Mae smygu ac amlygiad i fwg ail-law yn cael effaith sylweddol ar iechyd cyflogeion a pherfformiad sefydliad. Ar hyn o bryd, mae tua 19% o'r boblogaeth sy'n oedolion yng Nghymru yn smygu tybaco; ond amcangyfrifir hefyd fod 68% o smygwyr am roi'r gorau iddi! Mae hyn yn rhoi cyfle gwych i gyflogwyr ymgysylltu â'u staff ynglŷn â smygu, codi ymwybyddiaeth o'r effaith ar iechyd ac effeithiau cymdeithasol ac ariannol, a'u helpu i roi'r gorau iddi.

Yr Achos Iechyd, Moesol a Busnes dros Helpu Cyflogeion i Roi'r Gorau Iddi

  • Mae'n anhygoel bod un o bob dau smygwr yn marw oherwydd clefydau sy'n ymwneud â smygu.
  • Lleihau'r costau sy'n gysylltiedig ag absenoldeb oherwydd salwch - collir 34 miliwn o ddiwrnodau gwaith yng Nghymru a Lloegr y flwyddyn oherwydd ysmygu.
  • Gwella cynhyrchiant – gall helpu cyflogai sy'n smygu i roi'r gorau iddi arbed hyd at £4,000 y flwyddyn i sefydliad oherwydd egwyliau byrrach a llai aml, a llai o absenoldeb oherwydd salwch.
  • Mae'r rhai nad ydynt yn smygu 33% yn llai tebygol o fod yn absennol o'r gwaith ac, ar gyfartaledd, maent yn colli gwaith oherwydd salwch 2.7 diwrnod yn llai y flwyddyn na smygwyr.
  • Mae amgylchedd lle na chaniateir smygu yn annog smygwyr i roi'r gorau iddi ac mae 68% o smygwyr yn dweud eu bod am roi'r gorau iddi mewn gwirionedd.
Arfer Da i Reoli Smygu yn y Gweithle
  • Datblygu polisi dim smygu ar gyfer eich gweithle - gan weithio tuag at safle di-fwg. Meddyliwch am ymagwedd eich sefydliad tuag at E-sigarets. Os ydych yn defnyddio e-sigarets am y tro cyntaf, defnyddiwch ddatganiad sefyllfa Iechyd Cyhoeddus Cymru i gael trosolwg o'r ystyriaethau iechyd. Mae rhagor o gymorth i'ch helpu i integreiddio E-sigarets mewn polisi smygu ar gael gan Action on Smoking and Health Wales (ASH Cymru).
  • Caniatewch i staff fynd i sesiynau cymorth rhoi'r gorau i smygu yn ystod oriau gwaith heb golli tâl.
  • Ystyriwch godi smygu fel mater o arfer yn ystod cyfweliadau dychwelyd i'r gwaith ar ôl cyfnod o absenoldeb oherwydd salwch.
  • Hyrwyddwch ymgyrchoedd ynglŷn â smygu a thybaco, cymerwch ran ynddynt ac ymgysylltwch â'ch staff ynglŷn â hwy.
  • Cewch y wybodaeth ddiweddaraf am newidiadau ar draws iechyd a lles drwy gofrestru ar gyfer e-fwletin Cymru Iach ar Waith.
Gwasanaethau Cymorth
  • Mae Helpa Fi i Stopio yn un man cyswllt ar gyfer smygwyr sydd eisiau stopio smygu yng Nghymru. Bydd tîm canolfan gyswllt Helpa Fi i Stopio yn prosesu pob hunangyfeiriad gan smygwyr ac e-gyfeiriadau gan broffesiynau.

Ffoniwch: 0800 085 2219

Ewch i: Helpa Fi i Stopio

Y Wybodaeth Ddiweddaraf a Gwybodaeth Bellach
Ymgyrchoedd

Diwrnod Dim Tybaco y Byd - Ddiwedd mis Mai bob blwyddyn

Diwrnod Dim Smygu - Ail ddydd Mercher bob mis Mawrth