Neidio i'r prif gynnwy

Cwsg

Mae cyflogwyr yn rhan bwysig o hyrwyddo arferion cysgu da ymysg y gweithwyr, gan fod digon o gwsg yn hanfodol i iechyd, llesiant a chynhyrchiant yn gyffredinol.

Yn ôl Cymdeithas Frenhinol Iechyd y Cyhoedd (RSPH), mae pobl yn colli gwerth noson o gwsg bob wythnos. Yn ogystal:

  • Mae cwsg yr un mor hanfodol i allu goroesi a chadw’n iach ag yw bwyd a dŵr. Mae’n rhaid cael cwsg ac mae’n anochel.
  • Mae llwyth o dystiolaeth ar gael ynglŷn â pha mor hanfodol yw cwsg i’n hamddiffyn rhag problemau iechyd a llesiant. Mae amrywiaeth eang o faterion corfforol, meddyliol, ymddygiadol a pherfformiad yn gysylltiedig â chwsg gwael.
  • Er hyn, nid yw pedwar o bob deg person yn cael digon o gwsg, ac nid yw un o bob pump yn cysgu’n dda bron bob nos, sef yr ail gŵyn iechyd mwyaf cyffredin i ddilyn poen.
Effaith diffyg cwsg

Amlyga ymchwil sy’n dod i’r amlwg fod cysylltiad rhwng diffyg cwsg a chyflyrau megis pwysedd gwaed uchel, clefyd y galon a diabetes. Yn ogystal, mae’n cynyddu’r tueddiad o gael heintiau ac yn cynyddu’r tebygolrwydd o gael damweiniau ac anafiadau.

Ffactorau sy’n cyfrannu at ddiffyg cwsg yw straen sy’n gysylltiedig â gwaith, oriau gweithio afreolaidd, salwch, heneiddio, pryderon ariannol, a cholled personol, ymysg pethau eraill.

Mae’n hanfodol canfod p’un a yw diffyg cwsg yn effeithio ar berfformiad yn y gwaith. Arwyddion amlwg yw dirywiad mewn perfformiad yn gyffredinol, ei chael yn anodd canolbwyntio a chofio, newid mewn hwyliau, a’n fwy tebygol o gymryd risgiau. Mae’n hanfodol gallu adnabod yr arwyddion hyn er mwyn cynnal llesiant a chynhyrchiant yn y gweithle.

Arwyddion o ddiffyg cwsg

Source:  Is lack of sleep affecting your work? - UK Health Security Agency (blog.gov.uk)

  • Cyfathrebu llai
  • Dirywiad mewn perfformiad
  • Methu canolbwyntio/tynnu sylw yn rhwydd
  • Sgiliau gwybyddol gwael a chof gwael
  • Hwyliau drwg/ymddwyn yn amhriodol
  • Yn fwy tebygol o gymryd risgiau
  • Methu gwneud addasiadau angenrheidiol
  • Yfed mwy o gaffein/diod egni
  • Yn sâl yn amlach/absenoldeb salwch

Amlyga’r Sefydliad Siartredig Personél a Datblygu (CIPD) y gall colli hyd yn oed ychydig bach o gwsg effeithio ar sgiliau arwain a chymwyseddau, sef y ‘swyddogaethau gweithredol’, a gallai effeithiau hyn gynnwys:

  • Deall ac ymdopi ag amgylchedd sy’n newid yn gyflym
  • Amldasgio
  • Llunio atebion arloesol i broblemau
  • Asesu risg a rhagweld ystod y canlyniadau a ddaw yn sgil camau gweithredu
  • Rheoli ymddygiad rhwystredig
  • Sgiliau cyfathrebu
  • Gwneud penderfyniadau sy’n ymwneud â syniadau cymhleth a chreadigol
Pa gamau y gall cyflogwyr eu cymryd?

Dylai cyflogwyr sicrhau eu bod yn deall y wybodaeth ganlynol a sicrhau bod eu gweithwyr yn ymwybodol o’r wybodaeth:

 

Drwy roi’r mewnwelediad hwn ar gwsg i weithwyr, gallant gymryd camau rhagweithiol i gyfrannu at y broses o greu amgylchedd gwaith fwy iach a chynhyrchiol i bawb.