Neidio i'r prif gynnwy

Gwybodaeth ac Adnoddau Pellach

Busnes yn y Gymuned (BITC)

Adnodd yw Sleep and recovery: a toolkit for employers a gynlluniwyd i gynorthwyo cyflogwyr i allu deall pwysigrwydd cwsg a gwella  a hynny er budd llesiant a chynhyrchiant y gweithwyr. Mae’n darparu canllawiau a dulliau ymarferol i gyflogwyr allu creu amgylchedd gwaith cefnogol sy’n blaenoriaethu ac yn hyrwyddo arferion cysgu iach ymysg y gweithwyr.

 

Sleepstation

Rhaglen gwella cwsg yw Sleepstation (ble y codir tâl, ond ceir mynediad am ddim drwy’r GIG mewn rhai ardaloedd). Yn ychwanegol i’r gwasanaeth hwn, ceir mynediad am ddim i amrywiaeth o erthyglau am gwsg ac insomnia, a’r her o greu gweithle sy’n gyfeillgar i gwsg.

 

The Sleep Charity

Mae The Sleep Charity yn hyrwyddo arferion cysgu iach ac yn rhoi cymorth i unigolion sy’n profi anawsterau sy’n gysylltiedig â chwsg. Mae’r elusen yn cynnig amrywiaeth o wasanaethau ac adnoddau sydd wedi’u hanelu at wella ansawdd cwsg i bobl o bob oedran, gan gynnwys adnoddau ar-lein.