Neidio i'r prif gynnwy

Hapchwarae

Er ei fod yn aml yn cael ei ystyried yn weithgaredd hamdden diniwed, hwyliog, mae gamblo’n gysylltiedig ag amrywiaeth o niwed. Mae'r niwed hwn yn ymestyn y tu hwnt i’r gamblwyr eu hunain, i'w teuluoedd ac eraill o'u cwmpas, yn ogystal â chymunedau. Mae gan gamblo’r potensial i ddod yn hynod gaethiwus a gall ysfa na ellir ei reoli i gamblo ymdreiddio i oriau gwaith ac effeithio ar ansawdd gwaith, gan arwain at effeithiau negyddol ar gydweithwyr a’r sefydliad cyfan.

Mae amcangyfrifon yn awgrymu bod tua 18,000 o gamblwyr “cymhellol” yng Nghymru – sef pobl y mae eu hymddygiad gamblo eisoes yn achosi niwed sylweddol iddynt – a thua 76,000 o bobl eraill sydd mewn perygl o ddod yn gamblwyr “cymhellol”. Gall gamblo arwain at ddyled a chreu straen, gan effeithio ar iechyd meddwl.

Mae yna lawer o ffyrdd y gall gamblo “cymhellol” gael effeithiau negyddol nid yn unig ar y person sy'n dioddef ohono ond ar gydweithwyr o'i amgylch, hefyd:

  • Cynhyrchiant is – mae’n fwy tebygol o fod yn hawdd tynnu sylw gweithwyr sy’n gamblo, maent yn annibynadwy ac yn methu â gweithio’n effeithiol
  • Morâl isel – os yw gamblo cydweithiwr yn effeithio ar ei gynhyrchiant neu ei ddibynadwyedd, gall hyn arwain at ddicter a morâl isel yn ei dîm
  • Risg i enw da – gall yr effaith ymestyn i gwsmeriaid, y cyhoedd neu randdeiliaid eraill y mae’r sefydliad yn gweithio gyda nhw, ac arwain at risgiau i enw da’r cwmni
  • Mwy o absenoldebau – mae gweithwyr sy’n gamblwyr “cymhellol” yn fwy tebygol o gymryd seibiannau estynedig neu absenoldeb salwch i ganolbwyntio ar eu gweithgareddau gamblo
  • Risg o ddwyn a thwyll – gall gweithwyr ddwyn neu gael adnoddau cwmni yn dwyllodrus i ariannu eu dibyniaeth neu i dalu dyled sy’n gysylltiedig â gamblo.

Mae'r dudalen we hon yn cael ei datblygu ar hyn o bryd. Bydd rhagor o wybodaeth, gan gynnwys canllawiau ymarferol ac adnoddau a chyfeirio at wasanaethau, yn dod yn fuan.