Neidio i'r prif gynnwy

Cadw'n Heini

Gweithgaredd corfforol yn y Gweithle

Mae bod yn gorfforol egnïol yn rhan bwysig o weithlu iach a busnes iach. Gall fod yn anodd weithiau neilltuo amser i wneud ymarfer corff yn ystod y dydd, felly gall helpu pobl i'w ymgorffori yn eu bywyd bob dydd fod yn fuddiol i bawb.

Wyddech chi...mae'r ffordd o fyw fodern yn golygu y gall dros 50% o gyfanswm amser eistedd y dydd ddigwydd yn y gwaith mewn rhai swyddi; ac mewn rhai achosion, mae pobl yn eistedd am ddwy ran o dair o'u hamser ar ddihun bob dydd.

Mae Cyflogwyr sy'n Hyrwyddo Gweithgarwch Corfforol yn Nodi'r Buddiannau Canlynol:

  • Gwell iechyd ymhlith y gweithlu.
  • Effaith gadarnhaol ar straen, poen cefn ac iechyd meddwl.
  • Gwell cynhyrchiant drwy'r busnes cyfan.
  • Cyfraddau absenoldeb is a dychwelyd i'r gwaith yn gynt ar ôl  salwch.
  • Llai o anafiadau yn y gweithle.
  • Cadw staff yn well ynghyd â chostau cysylltiedig is.
  • Gwelliannau o ran cyfathrebu, morâl ac awyrgylch gwaith.
  • Delwedd gorfforaethol fwy cadarnhaol.

Cyf: (Clemes et al, 2014, Lynch et al, 2010, Trueman ac Anokye, 2013, Wilmot et al, 2012)

Arfer Da i Hyrwyddo Gweithgarwch Corfforol yn y Gweithle

Y newyddion da yw ei bod yn syml iawn i helpu'ch staff i fod yn fwy egnïol. Y peth allweddol yw ymgysylltu â'ch gweithlu a darganfod beth maent am ei wneud.

Rhowch gynnig ar y camau hawdd isod: 

  1. Cewch y wybodaeth ddiweddaraf am newidiadau ar draws iechyd a lles drwy gofrestru ar gyfer e-fwletin Cymru Iach ar Waith.
  2. Ymgynghorwch â gweddill eich tîm i ddarganfod pa weithgaredd y mae gan bawb ddiddordeb ynddynt. Ceisiwch annog pobl i gymryd rhan yn y broses.
  3. Anogwch a chefnogwch bobl i ymgorffori gweithgarwch corfforol yn ystod eu diwrnod gwaith – gall hyn helpu i atgyfnerthu cymalau, lleihau straen, a lleihau'r risg o salwch difrifol.
  4. Rhowch gynnig ar nifer o weithgareddau neu gynlluniau cefnogol er mwyn helpu staff i fod yn fwy egnïol yn y gweithle, yn ogystal â'r tu allan i oriau gwaith.
  5. Ac yn bwysicach na dim...gwnewch y cyfan yn hwyl! Po fwyaf hwyliog fydd, y mwyaf y bydd pobl am gymryd rhan.

Dyma rai syniadau ynglŷn â sut i annog mwy o weithgarwch corfforol yn y gweithle, er mwyn eich helpu i ddechrau arni:

  • Cofrestrwch i fod yn rhan o gynllun aberthu cyflog i brynu beic
  • Dechreuwch grŵp cerdded yn y gweithle
  • Anogwch staff i ddefnyddio'r grisiau neu barcio ymhellach i ffwrdd fel rhan o'u harferion bob dydd
  • Cynhaliwch sesiynau blasu amser cinio megis ioga neu pilates
  • Cynhaliwch her camfesurydd er mwyn darganfod faint o weithgarwch corfforol a geir yn eich gweithle
  • Gwnewch gais am arian Cist Gymunedol Chwaraeon Cymru er mwyn helpu i brynu cyfarpar newydd ar gyfer gweithgareddau
  • Cyflwynwch gyfarfodydd cerdded a sesiynau cerdded un i un
  • Darparwch wybodaeth ac anogwch opsiynau teithio gwyrdd, gan gynnwys cymudo llesol
  • Hyrwyddwch ddigwyddiadau lleol a chefnogwch unigolion sy'n cymryd rhan
  • Cofrestrwch eich tîm i gymryd rhan yn Her Camfesurydd Cymru Gyfan
Gwasanaethau Cymorth ac Adnoddau sydd ar gael

Gwasanaethau Cymorth a Chefnogi

  • Gall Cymru Iach ar Waith gefnogi cyflogwyr gyda syniadau hwyliog a diddorol ar gyfer hyrwyddo ac annog gweithgaredd corfforol yn y gweithle. I gael rhagor o wybodaeth gallwch anfon e-bost atom yn WorkplaceHealth@wales.nhs.uk gyda’ch ymholiadau a bydd un o’n cynghorwyr yn cysylltu â chi cyn gynted â phosibl.
  • Mae prosiect Gweithle Sustrans yn helpu cyflogwyr ledled Cymru i rymuso eu staff i adael y car gartref a theithio i'r gwaith ar drafnidiaeth gyhoeddus, ar gefn beic, ar droed neu drwy rannu car. Cysylltwch â Sustrans ar workplaces@sustrans.org.uk am ragor o wybodaeth.

Arweiniad

  • Ewch i wefan Health at Work Sefydliad Prydeinig y Galon i gael cyngor, syniadau, awgrymiadau ac adnoddau i'ch helpu i hyrwyddo gweithgaredd corfforol yn y gwaith.
  • Mae ffisiotherapyddion yn esbonio sut y gallwch chi gynnwys ymarfer corff hawdd ac effeithiol yn eich trefn ddyddiol gyda'r Canllaw Ymarfer Corff Hawdd hwn.
  • Canllawiau ar fanteision cynyddu gweithgaredd corfforol i oedolion ac oedolion hŷn.

Diweddariadau a Gwybodaeth Bellach

Ymgyrchoedd

Mis Cerdded Cenedlaethol – Bob mis Mai

Diwrnod Beicio i'r Gwaith - Cynhelir ar 4 Awst

 

 

Gellir dod o hyd i'r ffeithluniau a nodir uchod ynghyd ag adroddiad Prif Swyddog Meddygol y DU ar wefan Llywodraeth y DU. Mae'r ffeithluniau'n esbonio'r gweithgaredd corfforol sydd ei angen ar gyfer buddion iechyd cyffredinol i bob grŵp oedran, oedolion anabl, menywod beichiog a menywod ar ôl genedigaeth.