Neidio i'r prif gynnwy

Camddefnyddio Sylweddau

Mae'r defnydd hamdden o gyffuriau dipyn yn fwy cyffredin mewn cymdeithas heddiw nag y bu hyd yn oed ddeng mlynedd yn ôl. Mae'r term camddefnyddio cyffuriau hefyd yn cwmpasu defnydd amhriodol o feddyginiaethau presgripsiwn a meddyginiaethau a werthir dros y cownter yn ogystal â chyffuriau anghyfreithlon. Gall cyffuriau gael effaith negyddol ar allu cyflogai i wneud ei waith yn effeithiol.

  • Mae tua thraean (34.6%) o oedolion rhwng 16 ac 59 oed wedi cymryd cyffuriau ar ryw adeg yn ystod eu bywydau.
  • Mae tua 1 o bob 29 (3.5%) o oedolion rhwng 16 a 59 oed wedi cymryd cyffuriau Dosbarth A yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.
  • Mae tua 1 o bob 5 (19.8%) o oedolion rhwng 16 a 24 oed wedi cymryd cyffuriau yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. Roedd y gyfran hon yn fwy na dwbl cyfran y grŵp oedran ehangach, ac mae’n cyfateb i tua 1.2 miliwn o bobl.

Cyf: Camddefnyddio Cyffuriau, y Swyddfa Gartref: Canfyddiadau Arolwg Troseddu 2017/18 ar gyfer Cymru a Lloegr

Arfer Da i Reoli Camddefnyddio Sylweddau yn y Gweithle
  1. Lluniwch bolisi ynglŷn â Chamddefnyddio Sylweddau  – dyna'ch man cychwyn. Drwy ddatblygu neu adolygu'ch polisi ynglŷn â Chamddefnyddio Sylweddau gallwch roi cyfrifoldebau a chanllawiau clir i bawb eu dilyn, ac egluro'r hyn sy'n ymddygiad priodol a'r hyn nad yw'n briodol.  Dylai hwn gael ei ddatblygu mewn cydweithrediad â chyflogeion, unrhyw Gynrychiolwyr Undebol, ac Adnoddau Dynol. 
  2. Trefnwch hyfforddiant i gyflogeion a rheolwyr - i ba raddau mae'ch staff yn ymwybodol o'ch polisi? Beth yw sylwedd anterth cyfreithiol? Beth yw'r arwyddion? Dyma rai o'r cwestiynau y gellir eu gofyn ynglŷn â Chamddefnyddio Sylweddau. Cynhaliwch sesiwn codi ymwybyddiaeth o gamddefnyddio sylweddau â staff gan ddefnyddio Canllawiau HSE ar Gamddefnyddio Cyffuriau yn y Gweithle.
  3. Nodwch Hyrwyddwr Iechyd - mae'n beth da cael hyrwyddwr na yw'n rheolwr i gynnig llwybr amgen at wybodaeth a chymorth i gyflogeion.
  4. Nodwch lwybrau clir tuag at gymorth - Dylai fod gan sefydliad gyfeiriadau clir at y cymorth mewnol sydd ar gael, a/neu wasanaethau cymorth allanol sy'n helpu unigolion gyda phroblemau sy'n gysylltiedig â phroblemau camddefnyddio sylweddau.
  5. Codwch ymwybyddiaeth – Cynhaliwch eich ymgyrch/sesiwn codi ymwybyddiaeth eich hun ar beryglon camddefnyddio sylweddau a'r ffordd y mae'n effeithio ar les cyflogeion.

Gall adolygu'r ffordd rydych yn rheoli camddefnyddio sylweddau yn y gweithle helpu i gynnig nifer o fuddiannau, i gyflogwyr ac unigolion, gan gynnwys:

  • Arbed y gost o recriwtio a hyfforddi cyflogeion newydd yn lle'r rhai y gallai eu cyflogaeth gael eu terfynu oherwydd camddefnydd o gyffuriau heb ei drin;
  • Lleihau cost absenoldeb neu gynhyrchiant yr amherir arno;
  • Creu amgylchedd mwy cynhyrchiol drwy gynnig cymorth i'r cyflogeion hynny sy'n datgan bod ganddynt broblem o ran cyffuriau, gan wella morâl cyflogeion;
  • Lleihau'r risg o ddamweiniau a achosir gan farn ddiffygiol;
  • Gwella canfyddiad y cyhoedd o'ch sefydliad fel cyflogwr cyfrifol;
  • Cyfrannu at ymdrechion cymdeithas i wrthsefyll camddefnyddio cyffuriau.
Gwasanaethau Cymorth
  • Barod gweithio ar draws De a Gorllewin Cymru i gefnogi unigolion y mae alcohol a chyffuriau yn effeithio arnynt, a'u ffrindiau a'u teulu
  • Kaleidoscope Mae gwasanaethau'n cefnogi pobl a theuluoedd y mae defnyddio sylweddau yn effeithio arnynt
  • WCADA Asiantaeth driniaeth yw Western Bay sy'n darparu gwasanaethau i oedolion, pobl ifanc a theuluoedd, a phobl yn y system cyfiawnder troseddol.
  • Mae MEPMIS yn darparu modiwl hyfforddiant E-ddysgu ar gyffuriau ac alcohol am ddim a all gael ei ddefnyddio gan unigolion a chyflogwyr.
  • Mae Dan 24/7 yn darparu llinell gymorth ddwyieithog ac am ddim dros y ffôn fel un man cyswllt i unrhyw un yng Nghymru sydd am gael rhagor o wybodaeth neu help yn ymwneud â chyffuriau neu alcohol.
  •  Y Gwasanaeth Di-waith Mentora Cymheiriaid: Cymorth cyflogaeth arbenigol ar gyfer pobl sy'n gwella o salwch meddwl a chamddefnyddio sylweddau a/neu gamddefnyddio alcohol.
Arweiniad a gwybodaeth bellach