Neidio i'r prif gynnwy

Sut Mae Cyffuriau'n Gweithio?

Mae’r Llinell Gymorth Cyffuriau ac Alcohol, neu DAN 24/7 dan ofal Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ac mae’n cael ei hariannu gan Lywodraeth Cymru.

Llinell gymorth ffôn am ddim a dwyieithog ydy DAN 24/7 sy’n darparu un pwynt cyswllt i unrhyw un yng Nghymru sydd eisiau mwy o wybodaeth a/neu help ynglyn â chyffuriau a/neu alcohol. Bydd unrhyw beth fyddwch chi’n ei ddweud wrth DAN 24/7, neu unrhyw asiantaeth byddwch chi'n cysylltu â hi, yn gyfrinachol ac ni fydd yn rhaid i chi roi eich enw go iawn hyd yn oed.

DAN 24/7 - Sut Mae Cyffuriau’n Gweithio?

 - Iselyddion

Mae’r rhain yn arafu’r ffordd y mae’r meddwl a’r corff yn gweithio, fel curiad y galon neu’r ffordd rydych chi’n anadlu. Maen nhw’n gwneud i chi deimlo’n gynnes ac yn eich ymlacio. Enghreifftiau o gyffuriau Iselydd yw Alcohol, tawelyddion, Heroin a Chysglynnau.

 - Cyffuriau Adfywiol

Mae’r cyffuriau hyn yn cael effaith groes i’r uchod, sef cyflymu’r ffordd y mae’r meddwl a’r corff yn gweithio, gan wneud i chi deimlo’n gyffrous ac yn hyderus. Enghreifftiau o gyffuriau Adfywiol yw Nicotin, Caffein, Cocên ac Amffetaminau.

Mae’r ddau fath o gyffur yn gallu rhoi teimlad o ewfforia i chi, sef gwneud i chi deimlo’n dda ac yn fodlon.

 - Cyffuriau Sy’n Eich Gwneud I Weld Rhithiau

Ar y llaw arall, ychyDig o effaith corfforol y caiff y rhain gan eu bod nhw’n effeithio’n uniongyrchol ar y rhannau hynny o’r ymennydd sy’n rheoli’r ffordd y mae’r synhwyrau’n gweithio. Fe allan nhw newid y ffordd y mae’r unigolyn sy’n cymryd y cyffuriau yn deall y byd mewnol a’r byd allanol. Mae LSD yn enghraifft o gyffur Seicedelig.

Cyffur, Meddylfryd A Sefyllfa

Mae’r ffordd y gwelwn yr effeithiau a’r ffordd y mae’r cyffur yn teimlo i’r unigolyn yn dibynnu ar sut mae’r canlynol yn rhyngweithio: nodweddion y sylwedd dan sylw (cyffur), hwyliau’r unigolyn sy’n cymryd y cyffur, profiad a disgwyliadau (meddylfryd), a’r lle y mae’r unigolyn ynddo wrth gymryd y cyffuriau (sefyllfa).

Disgrifiwyd y drindod yma i gychwyn gan y seicolegydd o America, Norman Zinberg, yn ei lyfr 'Drug, Set and Setting'. Mae hwn yn fodel defnyddiol i’n helpu i ddeall y weithred o gymryd cyffuriau a phrofiad y rhai sy’n cymryd y cyffuriau.

Goddefedd

Wrth i’r corff arfer â’r cyffuriau, gall goddefedd i’r effaith dyfu. Golyga hyn bod angen dosau uwch er mwyn cael y teimlad rydych chi eisiau.

Dibyniaeth

Mae rhai cyffuriau, os ydych yn eu cymryd dros gyfnod hir, yn gallu gwneud unigolyn yn ddibynnol neu’n gaeth iddyn nhw, a hynny’n gorfforol a/neu’n seicolegol.

Dibyniaeth seicolegol yw awydd emosiynol am gyffur y mae’r corff wedi arfer ag o. Dibyniaeth gorfforol yw pan fydd y corff wedi addasu i’r cyffur ac mae’n debyg y bydd yr unigolyn yn cael symptomau diddyfnu pan roddir gorau i gymryd y cyffur.

Mae’r hyn a elwir yn gyffuriau Dibyniaeth yn cynnwys Cysglynnau (Heroin, Morffin, ayyb.), Opioid (cyffuriau cysgu synthetig fel Methadon a Palffiwm), Bensodiasepinau – yr hyn a elwir yn 'dawelyddion ysgafn' (faliwm, libriwm, ayyb.) ac Alcohol. Mae yna hefyd gyffuriau Adfywiol y mae’n bosibl mynd yn gaeth iddynt. Mae’r rhain yn cynnwys Nicotin, Cocên, Amffetaminau a Caffein.

Am fwy o wybodaeth:

Llinnell Gymorth Cyffuriau ac Alcohol Cymru

Ffon di-dal: 0808 808 2234

Neu tecstiwch DAN i: 81066