Neidio i'r prif gynnwy

Alcohol a Chyffuriau

Mae camddefnyddio alcohol a/neu gyffuriau yn broblem fawr yng nghymdeithas Cymru ac mae’n achosi niwed i unigolion, teuluoedd a’r gymuned ehangach. Mewn cyd-destun gwaith, gall alcohol a chyffuriau effeithio ar berfformiad ac absenoldeb, a chynyddu'r risg o ddamweiniau.

Mae cyflogwyr mewn lle delfrydol i hybu ffyrdd iach o fyw ac i weithio gyda gweithwyr i leihau rhai o'r pethau sy’n cyfrannu at ddefnyddio alcohol neu gyffuriau, er enghraifft, i leddfu straen yn y gweithle. Yn bwysig, gallant fod yn barod i gefnogi gweithwyr sydd wedi datblygu problemau gydag alcohol neu gyffuriau, mewn ffordd gydymdeimladol ac i hwyluso mynediad at y cymorth sydd ei angen arnynt.  O safbwynt iechyd a diogelwch, mae gan gyflogwyr rôl allweddol hefyd, o ran cyfathrebu a gorfodi polisi dim goddefgarwch o ran alcohol a chyffuriau yn y gwaith.